Llifogydd - pwy all helpu?

Dewch o hyd i sefydliadau a all gallu helpu yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Asiantaeth yr Amgylchedd

Yng Nghymru a Lloegr, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am adeiladu, cynnal a chadw a gweithredu amddiffynfeydd rhag llifogydd ac am roi rhybuddion am lifogydd i'r cyhoedd, sefydliadau eraill sy'n ymateb i lifogydd a'r cyfryngau.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn darparu gwasanaeth Llinell Llifogydd 0845 988 1188. Gallwch wrando ar wybodaeth am rybuddion am lifogydd wedi ei recordio ar gyfer eich ardal neu siarad â rhywun i gael cyngor 24 awr y dydd.

Byddwch yn barod ar gyfer llifogydd drwy ddilyn rhai camau syml. Cofrestrwch i gael rhybuddion am lifogydd am ddim, lluniwch gynllun llifogydd a dysgwch am ffyrdd o leihau effaith llifogydd ar eich cartref neu'ch busnes.

Nid ydym yn cyflenwi bagiau tywod i ddeiliaid tai a busnesau unigol. Gallwch gysylltu â masnachwyr adeiladwyr lleol i gael stociau o fagiau a thywod, neu gallwch ddod o hyd i gyflenwyr bagiau modern heb dywod a gynllunir ar gyfer llifogydd ar Dudalennau Gleision y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol. 

Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban (SEPA)

Mae Llinell Llifogydd hefyd ar gael yn yr Alban, wedi ei chydgysylltu gan Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban (SEPA).

Awdurdodau lleol

  • Gweithio gyda'r heddlu, y gwasanaethau tân ac achub ac Asiantaeth yr Amgylchedd i gydgysylltu ymatebion pan fydd llifogydd difrifol.
  • Rhoi cyngor lleol i'r cyhoedd ynghylch y digwyddiad a beth i'w wneud.
  • Gosod canolfannau gorffwys i bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi a threfnu llochesau neu lety dros dro i'r bobl hynny sydd heb unrhyw le arall i fynd.
  • Ymdrin ag achosion o gau ffyrdd ac amharu ar wasanaethau cymdeithasol.
  • Ymchwilio i achosion o amharu yn sgîl draeniau a charthffosydd yn gorlifo.
  • Os ydych chi angen cymorth neu gefnogaeth i baratoi at lifogydd beth am gysylltu â'ch awdurdod lleol. Mae llawer ohonynt yn cadw rhestr o bobl agored i niwed a allai fod angen cymorth ychwanegol mewn llifogydd neu argyfwng.
  • Mae ychydig o awdurdodau lleol yn darparu bagiau tywod a darpariaethau brys eraill i bobl sydd mewn perygl uniongyrchol, ond nid yw’r mwyafrif yn gwneud hynny. Dylech wirio gyda’ch awdurdod lleol o flaen llaw er mwyn canfod beth yw eu polisi a sut y gallwch gael mynediad at fagiau tywod cyn bod llifogydd yn cychwyn.    

  • GOV.UK : Dewch o hyd i’ch cyngor lleol

Yr Heddlu

Cydgysylltu'r gwasanaethau brys pan fydd llifogydd mawr a helpu i symud pobl o'u cartrefi os bydd angen.

Y Gwasanaeth Tân ac Achub

  • Yn bennaf cyfrifol am achub bywyd.
  • Gallant bwmpio llifddwr hefyd (Cysylltwch â'ch gwasanaeth lleol i holi am hyn.  Efallai y codir ffi am y gwasanaeth hwn).

Canolfan Cyngor ar Bopeth

  • Gall gynnig cyngor ar sut i gael gafael ar arian mewn argyfwng a delio ag ymholiadau yswiriant.
  • Ceir manylion eich Canolfan leol yn y llyfr ffôn neu ar wefan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Fforwm Llifogydd Cenedlaethol

Darparu cyngor a chymorth i gymunedau ac unigolion sydd wedi dioddef llifogydd neu sy'n wynebu perygl o lifogydd.

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd

Monitro a rhoi cyngor ar iechyd y cyhoedd.

Galw Iechyd Cymru

Os bydd gennych unrhyw bryderon iechyd yn ystod neu ar ôl llifogydd ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 i gael cyngor a gwybodaeth.

Y Grid Cenedlaethol

Os byddwch yn aroglu nwy ffoniwch 0800 111 999, neu os byddwch yn sylwi ar berygl posibl ar linellau trydan uwchben neu yn agos atynt, ffoniwch 0800 404 090.