Y gwasanaeth rhybuddion llifogydd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu gwasanaeth rhybuddion llifogydd ledled Cymru a Lloegr mewn ardaloedd mewn perygl llifogydd o afonydd neu’r môr. Mewn rhai rhannau o Loegr, rydym hefyd yn darparu gwasanaeth rhybuddion llifogydd o ddŵr daear.

Gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael, mae ein gweithwyr ni'n cadw golwg ar faint y glaw, lefelau afonydd a chyflwr y môr ddydd a nos.  Defnyddiwn yr wybodaeth hon i ragweld posibilrwydd llifogydd.  Os rhagwelir llifogydd, cyhoeddwn rybuddion gan ddefnyddio set o dri math o rybudd.

                        Llifogydd - byddwch yn barod. Flood alert.Rhybudd llifogydd. Flood warning.Rhybudd llifogydd difrifol. Severe flood warning. 

Sut y cyhoeddir rhybuddion?

  • Yn uniongyrchol i chi - derbyniwch rybuddion dros y ffôn, neu trwy destun, ffacs neu e-bost. Ymgofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol rhad ac am ddim ni ar y wefan hon, neu galwch Floodline ar 0845 988 1188.
  • Ein gwefan rhybuddion llifogydd ni - edrychwch ar yr wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd mewn grym, a chadwch olwg ar lefelau afonydd neu'r môr yn eich bro chi, ac ar y rhagolwg perygl llifogydd diweddaraf ar gyfer eich sir chi.
  • Trwy alw Floodline ar 0845 988 1188 - gallwch wrando ar recordiad o'r wybodaeth a'r rhagolygon diweddaraf, neu siarad â theleffonydd am wybodaeth fwy cyffredinol ddydd a nos. Gall ein teleffonyddion ni ddarparu rhif deialu sydyn hefyd, sy'n rhoi mynediad cynt i chi at wybodaeth am eich bro chi.
  • Trwy'r cyfryngau - gallech weld neu glywed ein rhybuddion ni ar y teledu ac yn narllediadau radio. Gallwch edrych ar y rhybuddion diweddaraf ar Ceefax Digidol tudalen 405 hefyd.
  • Wardeiniaid llifogydd - yn rhai ardaloedd, mae yna Wardeiniaid Llifogydd i rybuddio a chefnogi eu cymuned leol pan gyhoeddir rhybuddion llifogydd. Galwch Floodline ar 0845 988 1188 er mwyn canfod a yw'r gwasanaeth hwn ar gael yn eich cymuned chi.
  • Seirenau/cyrn siarad - yn rhai ardaloedd, defnyddiwn seirenau neu gyrn siarad er mwyn rhybuddio pobl fod rhybuddion llifogydd wedi'i gyhoeddi. Galwch Floodline ar 0845 988 1188 er mwyn canfod a geir y gwasanaeth hwn yn eich cymuned chi.
  • Porthiannau rhybuddion llifogydd - Dengys porthiannau rhybuddion llifogydd (RSS) rybuddion llifogydd cenedlaethol a rhanbarthol sydd mewn grym a chânt eu diweddaru bob 15 munud. Mae'r porthiant yn cynnwys crynodeb byr a dolen i'r wybodaeth lawn ar ein gwefan.