Os yw llifogydd wedi achosi difrod i rannau helaeth o'r wlad, efallai y bydd yn rhaid i chi aros i aseswr colledion ymweld â chi.
Gofynnwch i'r cwmni yswiriant
- Pa mor hir y bydd hi cyn i'r aseswr colledion ymweld â chi.
- Os dylech chi lanhau eich eiddo neu a fyddant yn cael cwmni i wneud hynny drostoch chi.
- Os byddant yn helpu i dalu am waith atgyweirio a fydd yn lleihau'r difrod posibl yn sgil llifogydd ac felly’n lleihau'r costau pe bai'n digwydd eto.
Gwnewch gofnod eich hun o'r difrod yn sgil llifogydd
- Defnyddiwch ysgrifbin inc parhaol i farcio uchafswm uchder dŵr y llifogydd ar y wal. Gwnewch hyn ym mhob ystafell y mae'r llifogydd wedi effeithio arni.
- Tynnwch luniau neu gwnewch gofnod fideo o'ch eiddo gyda'r difrod. Rhestrwch y difrod i'ch eiddo a'ch pethau personol.
- Os yw eich polisi yswiriant yn eich yswirio am golli nwyddau darfodus, gwnewch restr o'r holl fwydydd yr ydych yn eu taflu. Dylech gynnwys unrhyw fwyd y mae dŵr y llifogydd wedi'i gyffwrdd ac unrhyw beth yn eich oergell neu'ch rhewgell sydd wedi cael ei ddifrodi yn sgil colli pŵer.
Pethau i'ch helpu â'ch cais yswiriant
- Cadarnhewch y bydd y cwmni yswiriant yn talu am unrhyw wasanaeth neu offer sydd ei angen arnoch.
- Gwnewch nodyn o'r holl alwadau ffôn. Cofnodwch y dyddiad, yr enw a'r hyn y cytunwyd arno.
- Cadwch gopïau o'r holl lythyrau, negeseuon e-bost a negeseuon ffacs yr ydych yn eu hanfon ac yn eu derbyn.
- Cadwch dderbynebau.
- Peidiwch â thaflu unrhyw beth nes bydd rhywun yn dweud wrthych am wneud (ac eithrio bwyd sydd wedi'i ddifrodi).
Yn dibynnu ar eich polisi, efallai y bydd y cwmni yswiriant dim ond yn cynnig glanhau ac atgyweirio rhywbeth, neu ei ddisodli.
Os nad oes gennych yswiriant, dylai eich cyngor lleol allu cynnig gwybodaeth am grantiau caledi neu elusennau a all eich helpu chi.
Mae’r daflen hon ar gael hefyd mewn tri chanllaw sain:
Noder bod y ffeiliau hyn yn fawr iawn a byddant yn cymryd tipyn o amser i’w lawrlwytho.