Nid yw perygl llifogydd yn golygu tebygolrwydd o lifogydd yn unig, ond hefyd y difrod posibl y gallai llifogydd ei achosi. Mynnwch wybod rhagor am y modd yr ydym yn ei fesur yma.
Pan fyddwn yn trafod perygl llifogydd rydym yn golygu dau beth
- Y tebygolrwydd o lifogydd penodol yn digwydd. Disgrifir hyn orau fel y tebygolrwydd neu’r siawns dros gyfnod o flwyddyn. Er enghraifft, ‘Mae siawns o 1 mewn 100 y bydd llifogydd ar y safle hwn mewn unrhyw flwyddyn’
- Yr effaith neu’r canlyniadau os ceir llifogydd.
Mae angen i ni wybod pa mor debygol yw llifogydd a pha mor ddifrifol fydd unrhyw effaith (a all newid gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r llifogydd). Dim ond drwy wybod y ddwy agwedd ar gyfer amrywiaeth o achosion o lifogydd o wahanol feintiau y gallwn asesu’r perygl i ardal benodol.
Beth yw asesiad perygl llifogydd?
Asesiadau perygl llifogydd yw ein ffordd ni o gasglu gwybodaeth ynghylch y peryglon a’r mathau o risg y mae llifogydd yn ei gyflwyno, a’r effaith gymdeithasol, amgylcheddol, ac economaidd sy’n debygol. Maent yn ein helpu i ganfod natur a maint y perygl presennol, a sut gall hynny newid dros amser neu o achos unrhyw fesurau rheoli perygl llifogydd a sefydlir.
Yn ogystal â data llifogydd o’r gorffennol, rydym yn monitro’r lefelau dŵr presennol yn gyson. Rydym yn datblygu modelau o’r data hwn er mwyn darogan cwrs llifogydd y dyfodol a pha mor ddifrifol y byddant. Mae’r holl wybodaeth hon yn bwydo i’n hasesiadau perygl llifogydd, sy’n canolbwyntio’n benodol ar:
- Ffynhonnell llifogydd, ee afon, dyfrffordd, dŵr llanw neu arfordirol.
- Y trywydd y bydd y dŵr yn ei ddilyn yn ystod llifogydd, a sut y bydd grym llifogydd yn effeithio ar ei drywydd.
- Effaith llifogydd ar bobl, tir, ac eiddo. Mae hynny’n cynnwys niwed corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu economaidd.