Gallai tebygolrwydd llifogydd gael effaith ar yswiriant tŷ yn eich ardal. Gallai cwmni yswiriant ofyn i chi am fwy o wybodaeth ynglŷn â thebygolrwydd llifogydd drwy ofyn i chi am Lythyr Cais yn Ymwneud ag Yswiriant.
Beth i’w wneud os bydd yswirwyr yn gofyn am wybodaeth bellach ynglŷn â’ch eiddo.
Mae Cais yn Ymwneud ag Yswiriant (IRR) yn lythyr y mae rhai cwmnïau yswiriant yn gofyn amdano i roi help iddynt ystyried a fyddant yn adnewyddu eich yswiriant tŷ neu roi cwôt newydd i chi.
Mae’r IRR safonol yn rhoi gwybodaeth ynglŷn ag:
- a yw eich eiddo y tu mewn neu y tu allan i’r ardal sydd â risg llifogydd
- a oes yna unrhyw amddiffynfeydd yn yr ardal a safon yr amddiffynfeydd hynny
- pa mor debygol yw’r llifogydd, gan ystyried mesurau rheoli risg megis rhwystrau atal llifogydd yn yr ardal
- a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer mesurau rheoli risg llifogydd yn yr ardal
Gallwch wneud cais am IRR gan ein tîm ymholiadau. Cofiwch gynnwys gyfeiriad llawn yr eiddo a rhif cyswllt ffôn os gwelwch yn dda. A chynnwys map hefyd os yn bosibl os gwelwch y dda. Bydd y tîm yn cysylltu â chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Mae IRR am ddim i’r cyhoedd. Bydd ceisiadau o’r sector fasnachol megis gan gyfreithiwr yn costio £50 (a TAW).
Tîm Ymholiadau
Trafferth cael yswiriant?
Os ydych yn ei chael hi’n anodd cael yswiriant, gallech geisio:
-
Siarad ag un o’r broceriaid sy’n arbenigo mewn eiddo sy’n anodd i’w hyswirio. Dylech fedru dod o hyd i’r broceriaid hyn yn y Yellow Pages, ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain neu drwy ffonio llinell gymorth broceriaid ar 0870 950 1790.
-
Cysylltu â Chymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI), a allai fedru cynnig cyngor i chi.
- Cysylltu â’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (NFF) - sefydliad annibynnol gwerin gwlad, sy’n cynnig cefnogaeth i’r rhai a effeithiwyd gan lifogydd.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Adroddiad Risg Llifogydd
Os ydych wedi gosod mesuryddion ymwrthedd neu wrthsefyll i’ch eiddo, mae templed safonol i gofnodi risg llifogydd ar gael yn awr. Mae’r diwydiant yswiriant yn cydnabod yr Adroddiad Risg Llifogydd fel dull safonol o gyflwyno risg llifogydd eiddo, cyn belled mai tirfesurwr proffesiynol, cymwys ac annibynnol y’i cwblhaodd. Gallai yswirwyr ystyried yr wybodaeth a’r mesurau diogelwch llifogydd wrth asesu’r amodau a gynigiant am sicrwydd parhaus neu newydd.
Datblygom yr Adroddiad Risg Llifogydd gyda Defra, Cymdeithas Yswirwyr Prydain, Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, Y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a Chymdeithas y Cyfreithwyr.
Rydym yn annog prif awdurdodau llifogydd lleol a thimau Asiantaeth yr Amgylchedd i gwblhau’r adroddiad hwn a’i roi i breswylwyr wedi iddynt osod cynnyrch diogelwch lefel eiddo.
Ein gwaith yn y diwydiant yswiriant
Rydym yn cynorthwyo’r Llywodraeth yn eu gwaith gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) i gefnogi ymrwymiad y diwydiant yswiriant i barhau i gynnig yswiriant risg llifogydd i’r rhan helaeth o dai a busnesau mewn ardaloedd o risg llifogydd.
Er nad oes gennym rôl mewn penderfynu ar ddiogelwch yswiriant, mae gennym nod gyffredin â’r ABI i wella mapio llifogydd a darparu’r wybodaeth orau sydd ar gael i’r cyhoedd.
Gwnawn hyn drwy greu gwybodaeth o’r asesiad cenedlaethol o debygolrwydd llifogydd, o afonydd a’r môr sydd ar gael i aelodau o ABI. Mae’r asesiad hwn yn ystyried amddiffynfeydd llifogydd, ac mae canllaw pendant ynglŷn â sut y gall yswirwyr ei ddefnyddio.
Mae yswirwyr yn defnyddio ein gwybodaeth law yn llaw â’u data eu hunain a gwybodaeth berthnasol arall y gallai cwsmeriaid ei ddarparu i asesu a allant ddarparu diogelwch yswiriant ac o dan ba amodau.
Mae’r cytundebau presennol rhwng Llywodraethau Cymru a Lloegr a’r ABI ar y ddarpariaeth o yswiriant risg llifogydd (a adnabyddir fel Datganiad o Egwyddorion) yn dod i ben ym mis Mehefin 2013. Mater i’r Llywodraethau ac i’r ABI yw trafod cyfeiriad yswiriant llifogydd i’r dyfodol.
A ydych chi mewn ardal sydd â risg llifogydd?
Gall unrhyw un gael mynediad at yr un wybodaeth sydd ar gael i gwmnïau yswiriant drwy ddefnyddio ein Map Llifogydd. Gallwch ganfod pa mor debygol yw eich ardal chi i ddioddef llifogydd o afonydd a’r môr.
Map Llifogydd