A wyf yn wynebu perygl o lifogydd?
Pa mor debygol ydyw y bydd llifogydd o afonydd a'r môr yn eich ardal chi? Defnyddiwch ein Map Llifogydd i gael yr ateb.
Map Llifogydd a sut i'w ddefnyddio
Defnyddiwch y map hwn i ddod o hyd yn gyflym i’r risg o lifogydd a ragfynegir yn eich ardal gan afonydd a’r môr. Gallech fod mewn perygl o ffynonellau eraill o lifogydd.
Nodwch mai canllaw yn unig yw ein Map Llifogydd. Nid yw wedi ei gynllunio i fod yn gywir ar lefel eiddo unigol.
Sut i gyrchu a defnyddio’r Map Llifogydd
- Dewch o hyd i'ch lleoliad ar y map. Gallwch fynd yn syth at eich ardal drwy chwilio am eich cod post, gan ddefnyddio'r blwch chwilio ar ochr dde'r dudalen hon.
- Unwaith y gallwch weld eich lleoliad ar y map, cliciwch ar y pwynt y mae gennych ddiddordeb ynddo. Yna fe welwch ganllaw i'r posibilrwydd o lifogydd yn eich ardal - isel, cymedrol neu sylweddol. Ceir dolenni hefyd i ragor o wybodaeth a chyngor defnyddiol.
Mwy o wybodaeth am y Map Llifogydd
-
Nid yw perygl llifogydd yn golygu tebygolrwydd o lifogydd yn unig, ond hefyd y difrod posibl y gallai llifogydd ei achosi. Mynnwch wybod rhagor am y modd yr ydym yn ei fesur yma.
-
Gallai tebygolrwydd llifogydd gael effaith ar yswiriant tŷ yn eich ardal. Gallai cwmni yswiriant ofyn i chi am fwy o wybodaeth ynglŷn â thebygolrwydd llifogydd drwy ofyn i chi am Lythyr Cais yn Ymwneud ag Yswiriant.
-
Gallwch ddefnyddio ein Mapiau Llifogydd Cronfeydd Dŵr i weld a allai llifogydd cronfa ddŵr effeithio ar eich ardal. Mae rhagor o wybodaeth am lifogydd cronfa ddŵr yma.