Paratowch eich eiddo rhag llifogydd

Mae’n amhosibl sicrhau y gall eich eiddo wrthsefyll pob llifogydd ond mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau’r difrod a achosir gan lifogydd.

Os daw llifogydd i'ch eiddo gall hyn fod yn ddrud o ran arian, amser ac anghyfleustra. Er ei bod yn amhosibl sicrhau y gall eich eiddo wrthsefyll pob llifogydd mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau'r difrod a achosir gan lifogydd. Gallai'r hyn y byddech yn ei wneud:

  • atal dŵr o lifogydd bas, byr ddod i mewn i adeilad
  • atal llifddwr gyhyd ag y bo modd rhag dod i mewn i’r adeilad os yw’r llifogydd yn waeth, gan roi mwy o amser i chi symud eich eiddo i fan diogel cyn gadael yr adeilad
  • cyfyngu ar y difrod a wneir i waliau, lloriau, darnau gosod a gosodiadau os daw llifddwr i mewn i’r adeilad
  • wneud hi’n haws, yn gyflymach ac yn rhatach i glirio a sychu ar ôl y llifddwr fel y gallwch ddychwelyd i’ch bywyd arferol cyn gynted ag y bo modd.

P'un ai ydych yn rhentu eich cartref neu’ch adeiladau busnes neu’n berchen arnynt, y peth pwysicaf yw paratoi nawr drwy brynu a gosod cynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd ymlaen llaw. Peidiwch ag aros nes ei bod yn ymddangos bod llifogydd ar fin digwydd gan na fydd gennych ddigon o amser i brynu’r cynhyrchion neu roi’r mesurau ar waith.

Efallai na fydd nifer o ddulliau traddodiadol o amddiffyn yn erbyn llifogydd, fel bagiau tywod, yn effeithiol yn erbyn llifogydd o ddŵr daear. Y rheswm dros hyn yw y gall dŵr ddod i fyny trwy’r llawr a pharhau’n uchel am amser hir.

Os mae eich eiddo mewn ardal sy'n cael ei effeithio gan lifogydd o ddŵr daear, efallai y bydd angen i chi ystyried pwmpio dŵr i ddiogelu eich eiddo.

Archwiliwch i’n tŷ llifogydd rhyngweithiol

Edrychwch ar y gwahanol ystafelloedd yn ein tŷ llifogydd rhyngweithiol a chael awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut y gallwch leihau niwed i'ch eiddo gan lifogydd.

Ymunwch â’r drafodaeth

Cymuned ar Facebook yw Flood Group UK ar gyfer pobl sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd neu’n wynebu perygl llifogydd. Ymunwch nawr am gymorth a newyddion ac i rannu eich profiadau.

Map llifogydd

Ydych chi mewn perygl o ddioddef llifogydd? Nodwch eich cod post neu enw lle i gael gwybod nawr...