Cyngor ar beth i’w wneud er mwyn bod yn ddiogel ac ar glirio ar ôl llifogydd.
Gellir gweld y rhagolwg tywydd diweddaraf ar wefan Y Swyddfa Dywydd:
I dderbyn y wybodaeth deithio ddiweddaraf ewch i wefan Asiantaeth y Priffyrdd:
Os bydd llifogydd mae’n bwysig canolbwyntio ar eich diogelwch chi a diogelwch eich teulu.
Os yw llifogydd ar fin cyrraedd, GWNEWCH Y PETHAU HYN NAWR:
- Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol ar radio a bwerir gan fatris neu radio weindio.
- Diffoddwch eich cyflenwad trydan /nwy.
- Os oes gennych gynllun llifogydd, rhowch ef ar waith.
- Symudwch eitemau pwysig i fan diogel.
Os bydd amser, gosodwch unrhyw gynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd a allai fod gennych fel:
- Estyll
- Gorchuddion briciau aer
- Sachau tywod neu rwystrau llifogydd eraill
- Byngau ar gyfer toiledau (ar gyfer toiledau ar y llawr gwaelod yn unig)
- Unrhyw gynnyrch arall ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd
Dylech fod yn barod i weithredu’n gyflym a sicrhau y gallwch gyrraedd man diogel. Diogelwch pobl sydd bwysicaf a gwrandewch ar gyngor yr Heddlu a’r Gwasanaethau Brys. Cofiwch mai eu busnes hwy yw eich bod chi’n ddiogel.
Bagiau tywod
Cysylltwch â masnachwyr adeiladwyr lleol i gael stociau o fagiau a thywod. Hefyd gallwch ddod o hyd i gyflenwyr bagiau modern heb dywod a gynllunir ar gyfer llifogydd ar Dudalennau Gleision y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol.
Nid ydym yn cyflenwi bagiau tywod i ddeiliaid tai a busnesau unigol. Mae ychydig o awdurdodau lleol yn darparu bagiau tywod i bobl sydd mewn perygl uniongyrchol, ond nid yw’r mwyafrif yn gwneud hynny. Dylech wirio gyda’ch awdurdod lleol o flaen llaw er mwyn canfod beth yw eu polisi a sut y gallwch gael mynediad at fagiau tywod cyn bod llifogydd yn cychwyn.
Byddwch yn wyliadwrus rhag llifogydd lleol
Adwaenir hyn hefyd fel 'llifogydd dŵr wyneb'. Bydd hyn yn digwydd fel arfer pan na all y system ddraenio ymdrin â chyfnodau o law trwm. Ni allwn roi rhybudd uniongyrchol i chi ynghylch y math hwn o lifogydd.
Yn lle hynny, rydym yn darogan lle gallai fod problem mewn rhai siroedd ac rydym yn rhoi rhagolwg dyddiol o’r perygl o lifogydd ar ein gwefan. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y posibilrwydd o lifogydd ‘dŵr wyneb’ yn eich ardal trwy wirio’r rhagolygon lleol ar gyfer y tywydd.
Mae llifddwr yn beryglus
- Gall chwe modfedd o ddŵr sy’n llifo’n gyflym eich gwthio drosodd.
- Gall dwy o ddŵr olygu bod eich cerbyd yn arnofio.
- Gall llifogydd ryddhau cloriau tyllau caead, gan olygu peryglon cudd.
- Peidiwch â cherdded neu yrru cerbyd drwy lifddwr.
- Peidiwch â gadael i blant chwarae mewn llifddwr.
- Peidiwch â cherdded ar amddiffynfeydd môr neu lannau afonydd.
- Pan fydd lefelau dŵr yn uchel, cofiwch y gall pontydd fod yn beryglus i gerdded neu yrru drostynt.
- Mae cwlferi yn beryglus adeg llifogydd.
- Cadwch lygad am beryglon eraill fel llinellau trydan a choed sydd wedi cwympo.
- Golchwch eich dwylo yn lân os byddwch yn cyffwrdd â llifddwr gan y gall fod wedi’i halogi.
Mae’r daflen hon ar gael hefyd mewn tri chanllaw sain:
Noder bod y ffeiliau hyn yn fawr iawn a byddant yn cymryd tipyn o amser i’w lawrlwytho.