Os ydych yn berchen ar dir neu eiddo ger afon neu gwrs dŵr arall gan gynnwys cwlfer, mae'r canllaw hwn i chi. Mae'n esbonio eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel perchennog eiddo ger afon.
Newidiadau yn y gyfraith sy'n effeithio ar berchnogion eiddo ger afonydd (2012)
Mae argraffiad newydd o'r llyfryn hwn, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2012, yn cynnwys newidiadau diweddar yn y gyfraith sy'n effeithio ar berchnogion eiddo ger afonydd a chanllawiau cyfredol.
Eich hawliau a'ch cyfrifoldebau o 2012
Cwrs dŵr yw unrhyw sianel naturiol neu artiffisial y mae dŵr yn llifo drwyddi, megis afon gan gynnwys lle mae afonydd yn llifo drwy gwlfer, nant neu ffrwd melin. Os ydych yn berchen ar dir ger cwrs dŵr, mae gennych rai hawliau a chyfrifoldebau. Mewn termau cyfreithiol rydych yn 'berchennog glannau afon'.
Ymhlith eich cyfrifoldebau mae:
- cynnal gwelyau a glannau afonydd;
- sicrhau bod y dŵr yn gallu llifo yn ddirwystr;
- rheoli rhywogaethau goresgynnol estron megis clymog Japan.
Rôl awdurdodau rheoli risg o 2012
Mae gan awdurdodau rheoli risg bwerau a chyfrifoldebau i reoli'r perygl o lifogydd a gweithio gydag eraill i wella'r amgylchedd afon yng Nghymru a Lloegr.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol a byrddau draenio mewnol oll yn awdurdodau rheoli risg.
Mae gan awdurdodau lleol a byrddau draenio mewnol bwerau i reoli'r perygl o lifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear.
Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd bwerau a chyfrifoldebau i gynnal a gwella prif afonydd ledled Cymru a Lloegr. Mae hefyd yn gyfrifol am reoli'r perygl o lifogydd o brif afonydd a'r môr.
Mae gwaith awdurdodau rheoli risg yn aml yn effeithio ar berchnogion glannau afonydd a phobl sy'n byw gerllaw.
Gyda phwy i gysylltu i gael help
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r ddeddfwriaeth newydd, rôl newydd awdurdodau rheoli risg, neu sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel perchennog eiddo ger afon cysylltwch â ni.