Sut mae defnyddio'r gwasanaeth rhybuddion llifogydd a-lein.
Mae'r gwasanaeth rhybuddio llifogydd ar-lein yn dangos y sefyllfa ar hyn o bryd ledled Cymru a Lloegr mewn perthynas ag afonydd, y môr a dŵr daear. Fe'i diweddarir yn awtomatig pob chwarter awr, ddydd a nos, gydol yr wythnos.
Rhybuddion llifogydd
Mae'r gwasanaeth ar-lein hwn yn darparu rhybuddion llifogydd a gwybodaeth berthynol ar gyfer mannau lle cynigiwn ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd ni - Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol.
Cyhoeddwn rybuddion llifogydd gan ddefnyddio tri gwahanol fath o rybudd:
- Llifogydd - Byddwch Barod
- Rhybudd Llifogydd
- Rhybudd Llifogydd Difrifol
Ni roddir rhybuddion am lifogydd difrifol o ddŵr daear. Y rheswm am hyn yw nad yw dŵr daear yn peryglu bywyd fel arfer.
Gwelwch 'nid yw'r rhybudd mewn grym bellach' a 'dim rhybuddion' hefyd. Dengys 'nid yw'r rhybudd mewn grym bellach' ymhle y diddymwyd rhybuddion yn y 24 awr ddiwethaf, a 'dim rhybuddion' na ddisgwylir llifogydd.
Ceir gwybodaeth rhybuddion llifogydd ar gyfer yr Alban ar wefan Asiantaeth Amddiffyn Amgylchedd yr Alban.
Defnyddio'r gwasanaeth
Rhydd y dudalen gyntaf i chi grynodeb genedlaethol o nifer a math y rhybuddion mewn grym ym mhob un o ranbarthau Asiantaeth yr Amgylchedd. Ceir map a ddengys yn eglur ymhle mae rhybuddion mewn grym ar y pryd. Gallwch weld rhagolygon tridiau perygl llifogydd Cymru a Lloegr, hefyd.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth o’r dudalen crynodeb genedlaethol trwy:
- Glicio ar y rhanbarth y mae gennych ddiddordeb ynddo ar y map, neu ar enw un o ranbarthau Asiantaeth yr Amgylchedd yn y tabl. Â hyn â chi at restr holl Ardaloedd Rhybuddion Llifogydd y rhanbarth hwnnw, pa un a oes rhybudd mewn grym ai peidio. Rhestrir y rhybuddion mwyaf difrifol yn gyntaf, pob tro.
- Clicio ar nifer neu fath y rhybudd yn y tabl. Â hyn â chi at restr o ardaloedd rhybuddion llifogydd sy'n cyfateb i'r math o rybudd neu sydd yn y rhanbarth y bu i chi'i ddewis yn y tabl. Ardaloedd sydd dan 'Rybudd Llifogydd' yn Anglia, e.e.
- Chwilio -allwch chwilio am rybuddion yn eich ardal chi yn ôl cod post, afon neu dref.
Bydd y testun uwchlaw'r tabl crynhoad cenedlaethol yn dweud wrthych pryd y diweddarwyd yr wybodaeth rhybuddion llifogydd ddiwethaf. Cofiwch adnewyddu'r dudalen yn eich porwr chi er mwyn medru gweld yr wybodaeth ddiweddaraf.
Gwybodaeth sydd ar gael
Pan chwiliwch, neu pan gliciwch chi ar enw yn y tabl crynhoad cenedlaethol neu ar y map, cewch restr o ardaloedd rhybuddion llifogydd sy'n cyfateb i'ch dewis chi. Dengys y rhestr y statws rhybudd llifogydd (Llifogydd - byddwch yn barod, Rhybudd Llifogydd, Rhybudd Llifogydd Difrifol, Dim Rhybudd Mewn Grym), enw'r ardal rhybuddion llifogydd, yr amser y cyhoeddwyd y rhybudd, a pheth gwybodaeth ychwanegol am y man hwnnw er mwyn eich helpu chi i benderfynu a yw'n berthnasol i chi.
Yna gallwch ddewis yr ardal rhybuddion llifogydd y mae gennych chi ddiddordeb ynddo trwy glicio ar yr enw. O wneud hynny, cewch fynediad at y mathau ychwanegol canlynol o wybodaeth ar gyfer yr ardal benodol honno:
- Lleoliad - Dolen at fap, sy'n dangos yr Ardal Perygl Llifogydd yn liw porffor ar fap o Gymru a Lloegr.
- Rhanbarth - y rhanbarth Asiantaeth yr Amgylchedd ple ceir yr ardal rhybuddion llifogydd.
- Yr Wybodaeth Ddiweddaraf - gwybodaeth leol ychwanegol ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn yr ardal honno. Pryd y disgwylir y llifogydd, uchder y llawn, ac ymhle y gwelir yr effeithiau, e.e. Bydd yr adran hon hefyd yn dangos pa bryd ac ar ba ddiwrnod yr ychwanegwyd yr wybodaeth hon at y wefan.
- Rhif deialu cyflym Floodline - y gallwch ei ddefnyddio wrth gysylltu â'n canolfan alw Floodline ni. Bydd y rhif deialu cyflym yn rhoi mynediad cynt i chi at wybodaeth llifogydd a recordiwyd ar gyfer yr ardal o dan sylw.
- Ardaloedd perthynol - a yw unrhyw ardaloedd rhybuddion llifogydd eraill yn cynnwys y man o dan sylw, a statws y rhybudd (Llifogydd - byddwch yn barod, Rhybudd Llifogydd, Rhybudd Llifogydd Difrifol, Dim Rhybudd Mewn Grym).
- Radio a theledu - manylion darlledwyr lleol sy'n darlledu gwybodaeth am lifogydd.
- Statws blaenorol - gwybodaeth hanesyddol am y pum rhybudd diwethaf yn yr ardal.