Gwybodaeth am y gwaith rydym yn ei wneud i leihau perygl llifogydd i gartrefi a busnesau yn ne-ddwyrain Cymru.
Rydym yn cynnal a chadw tua 700 milltir o afonydd De-ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys Taf, Elái, Ebwy, Rhondda, Rhymni a Ddawan. Symudwn rwystrau o’r afon, cadwn drefn ar lystyfiant y glannau, symudwn fariannau cerrig sy’n crynhoi yn yr afonydd, a sicrhawn fod yr afonydd yn agored pe digwydd inni gael glaw mawr a llifogydd.
Bu ein swyddogion ni’n gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol er mwyn helpu lleihau bygythiad llifogydd i ardal y Rhath.
Bu inni atgyfnerthu glannau Rhymni ym mhentref Llaneirwg, er mwyn helpu lleihau bygythiad llifogydd i’r ardal.