Ceir gwybodaeth isod am bwy sydd yn y sefyllfa orau i ateb eich cwestiwn.
Os nad yw ein canllawiau cyffredinol a’n Cwestiynau Cyffredin yn ateb eich cwestiynau, gallech gysylltu â rhywun am ragor o wybodaeth. Bydd pwy y dylech gysylltu â nhw yn dibynnu ar eich cwestiwn. Ceir gwybodaeth isod am bwy sydd yn y sefyllfa orau i ateb eich cwestiwn.
- Defra - Adran Rheoli Llifogydd: cwestiynau am bolisi, deddfwriaeth a newidiadau polisi cenedlaethol cyffredinol yn Lloegr
- Llywodraeth Cynulliad Cymru - Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: cwestiynau am bolisi, deddfwriaeth a newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru
- Asiantaeth yr Amgylchedd - Tîm Diogelwch Cronfeydd Dŵr: cwestiynau cyffredinol am ddiogelwch cronfeydd dŵr, cydymffurfio â Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 ar gyfer cronfa ddŵr unigol a swyddogaeth a dyletswyddau perchnogion cronfeydd dŵr a pheirianwyr cronfeydd dŵr.
- Asiantaeth yr Amgylchedd - Swyddfa ardal leol: materion sy’n ymwneud â’r cronfeydd dŵr sy’n eiddo iddynt ac a reolir ganddynt a chwestiynau technegol am sut y lluniwyd y mapiau llifogydd cronfeydd dŵr.
- Awdurdod Lleol (Cyngor): ymholiadau sy’n ymwneud â threfniadau cynllunio argyfwng lleol a chyngor ar sut y gall pobl heb fynediad i’r rhyngrwyd weld mapiau llifogydd cronfeydd dŵr.
Cyrff eraill sydd â Chyfrifoldeb mewn Meysydd Cysylltiedig
Efallai bod gan y sefydliadau canlynol rywfaint o gyfrifoldeb yn y maes hwn hefyd, ac efallai y gallent ateb ambell i gwestiwn: