Beth y dylech ei wneud os bydd yn rhaid i chi adael eich cartref

Arhoswch yn ddiogel, gwrandewch ar gyngor y gwasanaethau brys bob amser a gadewch eich cartref pan ddywedir wrthych am wneud hynny.

  • Gadewch eich cartref os bydd y gwasanaethau brys yn dweud wrthych am wneud. Bydd gwrthod gadael ar ôl cael eich cynghori ganddynt yn eich rhoi chi, eich teulu a'r rhai sy'n ceisio eich helpu mewn perygl.
  • Pan fyddwch yn gadael eich cartref byddwch yn mynd i ganolfan ar gyfer pobl sydd wedi gadael eu cartrefi a gaiff ei rhedeg gan eich cyngor lleol. Darperir bwyd a dillad gwely am ddim. Dewch â dillad sbâr, meddyginiaeth hanfodol ac eitemau gofal babi os oes gennych fabi.
  • Bydd y rhan fwyaf o ganolfannau yn caniatáu i chi ddod â'ch anifeiliaid anwes. Dewch â'u bwyd. Rhowch gathod ac anifeiliaid bach mewn basged cludo anifeiliaid anwes neu focs diogel. Mae'r bobl sy'n rhedeg y canolfannau wedi'u hyfforddi i roi cefnogaeth a chyngor i chi. Byddant yn eich helpu gyda'r straen sy'n gysylltiedig â llifogydd ac yn eich paratoi ar gyfer beth i'w wneud wedyn.
  • Gadewch i rywun wybod os ydych yn bwriadu aros gyda ffrindiau neu berthnasau ar ôl i chi adael eich cartref.
  • Rhowch wybod i'ch cymdogion os ydych yn penderfynu gadael eich cartref yn ystod rhybudd am lifogydd fel y gellir rhoi cyfrif amdanoch os bydd angen i bobl adael eu cartrefi.

Oes angen help neu gymorth arnoch chi i weithredu'r gweithrediadau llifogydd hyn?

Mae'n bosibl bod angen help neu gymorth ar rai pobl i baratoi ar gyfer llifogydd. Fel rhan o'ch cynllunio ar gyfer llifogydd, rydym yn argymell eich bod yn ystyried pwy y gallwch chi ofyn am gymorth cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Yn ogystal, gallwch ystyried cysylltu â'ch awdurdod lleol, gan fod nifer ohonynt yn cadw rhestrau o bobl sy'n agored i niwed fydd angen cymorth ychwanegol o bosibl yn ystod llifogydd neu argyfwng.

Os yw Gwasanaeth Uniongyrchol Llinell Rybuddion Llifogydd ar gael yn eich ardal, gallwn drefnu bod unrhyw rybuddion llifogydd i’ch eiddo chi hefyd yn cael eu trosglwyddo i berthynas neu ffrind, fel eu bod nhw yn ymwybodol eich bod chi, o bosibl, angen cymorth. Gallwch sefydlu'r gwasanaeth hwn trwy ffonio 0845 988 1188.

Mae’r daflen hon ar gael hefyd mewn tri chanllaw sain:

Noder bod y ffeiliau hyn yn fawr iawn a byddant yn cymryd tipyn o amser i’w lawrlwytho.