Diogelwch yr hyn a allwch...

Os yw'ch eiddo yn debygol o ddioddef gan lifogydd dylech symud eitemau pwysig i fan diogel a gosod offer addas i wrthsefyll llifogydd er mwyn diogelu'ch eiddo a'ch meddiannau.

Dyma rai camau syml y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich eiddo a'ch meddiannau os derbyniwch rybudd llifogydd  neu os ydych o'r farn bod eich eiddo yn debygol o ddioddef gan lifogydd:

Ewch ag eitemau lan lofft neu i fan uchel yn eich eiddo

  • Cadwch ddogfennau pwysig fel papurau yswiriant yn ddiogel.
  • Symudwch eitemau o werth personol fel lluniau, fideos o'r teulu neu gofarwyddion rydych yn eu trysori.
  • Symudwch bethau ysgafn y gallwch eu codi yn rhwydd ac yn gyflym.
  • Symudwch neu codwch ddodrefn sy'n ddrud neu'n anodd ei hatgyweirio i fan uwch cyn symud rhai sy'n rhatach.
  • Ystyriwch a allwch chi gadw meddiannau gwerthfawr lan lofft yn barhaol neu mewn safle uwch er mwyn arbed eu symud yn y dyfodol.

Os oes modd, symudwch eich meddiannau sydd y tu allan i'ch cartref i dir uwch

  • Os nad yw'r llifddwr wedi eich cyrraedd, symudwch eich cerbyd i dir uwch a symudwch anifeiliaid anwes i le diogel.

Atal dŵr rhag dod i mewn i'ch cartref

  • Rhowch y plygiau mewn sinciau a baddonau gan osod sach dywod neu gas obennydd neu sach blastig wedi'u llenwi â phridd o'r ardd neu rywbeth trwm. Bydd hyn yn atal dŵr / carthffosiaeth rhag llifo i mewn i'ch sinciau a'ch toiledau drwy systemau sydd naill ai wedi'u rhwystro neu wedi’u gorlwytho. 
  • Ystyriwch ddefnyddio sachau tywod er mwyn atal dŵr rhag dod i mewn i'ch eiddo. Efallai y gall eich awdurdod lleol neu fasnachwr adeiladu gyflenwi'r rhain.
  • Mae nifer o gynhyrchion fforddiadwy y gallwch eu prynu er mwyn atal llifogydd rhag dod i mewn i'ch cartref drwy ddrysau, briciau aer, ffenestri a fflapiau cathod ac ati. Gweler isod am fwy o wybodaeth.

Os nad oes gennych falfiau unffordd wedi'u gosod

  • Gwthiwch dywelion neu lieiniau i mewn i fewnbibellau.
  • Datgysylltwch unrhyw offer sy'n defnyddio dŵr (fel peiriant golchi dillad neu beiriant golchi llestri).
  • Trowch eich cyflenwad dŵr, nwy a thrydan i ffwrdd yn y man lle daw'r prif gyflenwad i'ch eiddo.

Cynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd a dulliau eraill i amddiffyn eich eiddo

Un o'r dulliau gorau i ddiogelu'ch cartref neu'ch busnes rhag effeithiau difrodus llifogydd yw prynu a gosod cynhyrchion ymlaen llaw.   

Oes angen help neu gymorth arnoch chi i weithredu'r gweithrediadau llifogydd hyn?

Mae'n bosibl bod angen help neu gymorth ar rai pobl i baratoi ar gyfer llifogydd. Fel rhan o'ch cynllunio ar gyfer llifogydd, rydym yn argymell eich bod yn ystyried pwy y gallwch chi ofyn am gymorth cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Yn ogystal, gallwch ystyried cysylltu â'ch awdurdod lleol, gan fod nifer ohonynt yn cadw rhestrau o bobl sy'n agored i niwed fydd angen cymorth ychwanegol o bosibl yn ystod llifogydd neu argyfwng.

Os yw Gwasanaeth Uniongyrchol Llinell Rybuddion Llifogydd ar gael yn eich ardal, gallwn drefnu bod unrhyw rybuddion llifogydd i'ch eiddo chi hefyd yn cael eu trosglwyddo i berthynas neu ffrind, fel eu bod nhw yn ymwybodol eich bod chi, o bosibl, angen cymorth. Gallwch sefydlu'r gwasanaeth hwn trwy ffonio 0845 988 1188.

Mae’r daflen hon ar gael hefyd mewn tri chanllaw sain:

Noder bod y ffeiliau hyn yn fawr iawn a byddant yn cymryd tipyn o amser i’w lawrlwytho.