Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pobl sy’n byw ger cronfa ddŵr. Er bod llifogydd cronfa ddŵr yn annhebygol iawn, efallai eich bod am gael gwybod beth i’w wneud pe bai argyfwng.
Paratoi ar gyfer llifogydd cronfa ddŵr
Mae camau y gallwch eu cymryd ymlaen llaw i baratoi ar gyfer argyfwng. I fod yn barod ar gyfer llifogydd cronfa ddŵr, dylech:
- Wybod beth yw’r perygl. Defnyddiwch y mapiau llifogydd cronfeydd dŵr i weld a ydych yn byw neu’n gweithio mewn ardal y gallai llifogydd cronfa ddŵr;
- Cynlluniwch ble i fynd os ydych yn cael eich dal mewn llifogydd cronfa ddŵr effeithio arni;
- Paratowch fag brys neu becyn llifogydd o bethau y gallech fod eu hangen mewn argyfwng;
- Penderfynwch gyda phwy y byddai angen i chi gysylltu a sut;
- Byddwch yn wyliadwrus a byddwch yn barod i weithredu’n gyflym i fod yn ddiogel.
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i:
Beth i’w wneud mewn argyfwng
Gall llifogydd cronfa ddŵr fod yn wahanol iawn i fathau eraill o lifogydd. Gallai ddigwydd heb fawr ddim rhybudd, os o gwbl, ac efallai y bydd angen i chi adael ar unwaith. Gallai ceisio dianc rhag llifddyfroedd drwy fynd i fyny’r grisiau fod yn beryglus. Efallai y bydd angen i chi ymateb cyn i’r gwasanaethau brys allu’ch cyrraedd. Mae’n bwysig:
- Cadw’ch hun ac eraill yn glir o berygl. Symudwch oddi wrth y gronfa ddŵr, gan gadw at dir uwch os ydych chi’n gallu gwneud hynny’n ddiogel.
- Gofalwch fod rhywun wedi ffonio 999 os oes pobl wedi’u hanafu neu os oes bygythiad i fywydau.
- Peidiwch â cherdded na gyrru drwy lifddyfroedd
- Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys yn yr ardal
- Ceisiwch gadw’ch pwyll, meddyliwch cyn gweithredu a cheisiwch roi cysur i eraill
- Chwiliwch am unrhyw anafiadau – cofiwch helpu eich hun cyn ceisio helpu eraill.
Rhagor o wybodaeth