Ymdopi â'r gost

Ariannu ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau amddiffyn rhag llifogydd.

Preparing your property for flooding can limit the distress and damage caused by it, which means less costly repairs and less time out of your home or business premises. 

Bydd y gost o brynu a gosod cynhyrchion i gadw llifddwr allan o’ch eiddo yn dibynnu ar ei faint a’r math o lifogydd rydych am ei amddiffyn rhagddynt.

Er enghraifft, yn ôl Cymdeithas Yswirwyr Prydain, gallai diogelu’ch eiddo rhag fflachlifoedd bas gostio rhwng £2,000 a £6,000. Byddai angen newidiadau mwy i gadw dŵr allan yn ystod cyfnod o lifogydd parhaus a gallai hyn gostio rhwng £20,000 a £40,000.

Pethau i'w hystyried os oes risg fawr o lifogydd i'ch tŷ

Cynhelir cyllido ar gyfer cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd ar lefel tai fel rhan o'r broses ddyrannu flynyddol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol trwy ddefnyddio Cyllido Partneriaeth. Sylwer na all perchnogion unigol eiddo ymgeisio am y cyllid eu hunain. Dylai perchnogion eiddo gysylltu â'u hawdurdod lleol neu'r Tîm Partneriaethau a Throsolwg Strategol yn eu swyddfa leol Asiantaeth yr Amgylchedd am ragor o wybodaeth ar gyllido.

Cysylltwch â'ch landlord os ydych yn denant, er mwyn trafod opsiynau ynghylch amddiffyn rhag llifogydd a'ch parodrwydd i osod a chynnal unrhyw rwystrau.

Os yw'ch cartref neu fusnes wedi profi llifogydd neu os ydych yn gwneud gwaith adnewyddu, trwsiwch ef fel y bydd yn gallu gwrthsefyll niwed llifogydd yn well. Siaradwch â'ch cwmni yswiriant am drwsiadau a fydd yn lleihau'r niwed a achosir gan lifogydd yn y dyfodol.

Gwiwch gyda darparwr eich morgais i ganfod a ellir ymestyn cyfnod eich morgais i dalu am y gost o wneud eich eiddo'n fwy diogel rhag llifogydd (cyhyd â bod gennych ddigon o ecwiti yn eich eiddo).