Mae llawer o wahanol gynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd a chyflenwyr ar y farchnad. Dylech edrych am gynhyrchion sy'n briodol ar gyfer eich eiddo ac sydd hefyd yn gweithio drostoch.
Cynhyrchion a brofir at safonau'r diwydiant
Cyn prynu cynnyrch llifogydd gwiriwch ei fod wedi'i brofi at safonau'r diwydiant a'i fod yn addas am y gwaith. Dylai arddangos y symbol Nod Barcud neu achrediad cyfwerth os yw wedi'i brofi’n iawn.
Nod Barcud
Gofalwch eich bod yn ystyried yr holl ffyrdd y gall dŵr ddod i mewn i'ch eiddo. Er enghraifft, heblaw am estyll llawr wrth y drysau efallai y bydd angen ichi osod cloriau o frics aer a falfiau di-ddychwelyd ar eich system traenio.
Tudalennau Gleision
Mae'r Tudalennau Gleision yn gyfeiriadur annibynnol o gynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd a darparwyr gwasanaethau. Rhoddir y cyfeiriadur hwn at ei gilydd gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol.
Cymdeithas Amddiffyn rhag Llifogydd
Y Cymdeithas Amddiffyn rhag Llifogydd yw cymdeithas y diwydiant ar gyfer cyflenwyr eitemau amddiffyn rhag llifogydd a darparwyr gwasanaethau. Mae eu gwefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch amddiffyn cartrefi a busnesau.
Ceisiwch gyngor proffesiynol
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ceisio cyngor proffesiynol gan syrfëwr adeiladu, pensaer neu weithiwr proffesiynol annibynnol arall os ydych yn ystyried datrysiadau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer eich eiddo.
Nid oes cynllun aswiriant ffurfiol ar gyfer syrfewyr, ond mae’r sefydliadau proffesiynol canlynol yn dal rhestrau o aelodau sydd wedi mynd trwy fetio mewnol ac sy’n cadw at god ymddygiad cyffredin:
Gwiriwch gyda'ch swyddfa leol Asiantaeth yr Amgylchedd os ydych yn bwriadu cymryd mesurau a allai effeithio ar lif afon neu wyro dŵr llifogydd i eiddo arall. Ffoniwch ni ar 03708 506 506 a gofyn am siarad â rhywun yn y tîm Partneriaethau a Throsolwg Strategol yn eich ardal leol.
Rhybudd gwybodaeth
Nid oes gwarant y bydd unrhyw system amddiffyn rhag llifogydd yn gweithio ac nid yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn cymeradwyo cynnyrch neu gyflenwr neilltuol.
Cyfrifoldeb y prynwr yw sicrhau bod y cynhyrchion yn briodol ar gyfer eu heiddo, yn addas i'r pwrpas, wedi'i ffitio'n gywir ac yn diwallu eu hanghenion penodol. Mae'n bwysig i fod yn ymwybodol y gall defnyddio cynhyrchion llifogydd olygu bod dŵr llifogydd y tu allan i'r ardal sydd wedi’i hamddiffyn yn fwy peryglus trwy achosi iddo lifo'n gyflymach. Os yw dŵr llifogydd yn gorlwytho rhwystr, gallai gael effaith fwy trychinebus na phe byddai'r ardal wedi'i llifogi'n raddol.