Dweud eich dweud ar ddwr – ymgynghori ar y Cynlluniau Rheoli Basn Afon drafft

Cafodd Cynlluniau Rheoli Basn Afon Drafft eu paratoi ar gyfer yr 11 dosbarth basn afon yng Nghymru a Lloegr o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr Ewropeaidd.

Gallai'r cynigion yn y cynllun drafft hwn effeithio arnoch chi, eich busnes neu'ch diddordebau amgylcheddol, a hoffem gael eich barn.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhedeg o 22 Rhagfyr 2008 hyd at 22 Mehefin 2009. Byddai'n eithriadol o ddefnyddiol pe byddech yn cyflwyno sylwadau cyn gynted â phosibl yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Mae'r Cynllun Rheoli Basn Afon drafft yn disgrifio'r prif broblemau ym mhob dosbarth basn afon  ac yn disgrifio’n gryno sut y bwriadwn eu trin. Mae'r anecsau i'r ddogfen yn rhoi mwy o fanylion ar amodau'r dosbarth ardal basn afon, y gwaith y bwriadwn ei wneud a'r peirianwaith y gallwn ei ddefnyddio i wireddu hynny.

Gallwch ein helpu i greu cynllun rheoli basn afon effeithiol a chyraeddadwy drwy ymateb i'r ymgynghoriad hwn a thrwy son wrthym am unrhyw awgrymiadau neu sylwadau eraill sydd gennych.

I weld y cynlluniau ac i ymateb i'r ymgynghoriad