Mae dal a storio carbon (CCS) yn ddull o leihau allyriadau deuocsid carbon i’r atmosffer o ffynonellau fel gorsafoedd ynni tanwydd ffosil.
Mae’n ymwneud â dal y deuocsid carbon (naill ai cyn neu ar ôl llosgi), ei gludo mewn piblinellau neu ar longau a’i storio’n barhaol yn ddwfn o dan y ddaear mewn ffurfiannau daearegol addas.
Mae gorsafoedd ynni tanwydd ffosil yn gyfrifol am oddeutu draean o allyriadau deuocsid carbon y DU, a gallai CCS leihau’r allyriadau hynny gan gymaint â 90 y cant. Mae i’r dechnoleg dair elfen:
- Dal allyriadau deuocsid carbon o orsafoedd ynni a ffynonellau diwydiannol eraill
- Ei gludo drwy biblinell neu ar longau i safleoedd storio
- Ei storio’n barhaol dan y ddaear mewn strwythurau daearegol fel meysydd nwy a glo disbydd neu ddyfrhaenau heli.
Mae rhaglen y llywodraeth i weithredu CCS yn cynnwys adeiladu pedair o weithfeydd arddangos ar raddfa fasnachol rhwng 2010 a 2020 a chynllunio ar gyfer gweithredu ar raddfa ehangach o 2020 ymlaen. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cyllido rhaglen debyg yn ogystal.
Am wybodaeth bellach edrychwch ar y crynodeb ynghylch CCS y gellir ei lawrlwytho.
Ein rôl ni
Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (EPR)
Rydym ni’n rheoleiddio effeithiau amgylcheddol gorsafoedd ynni tanwydd ffosil mawr trwy roi caniatadau EPR sy’n rhychwantu allyrru pob sylwedd, ar wahân i ddeuocsid carbon. Bydd gan unrhyw orsaf ynni sy’n gosod technoleg CCS y manylion wedi’u cynnwys yn ei chaniatâd.
Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH)
Nyni a’r Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch yw’r rheolyddion ar y cyd ar gyfer y Rheoliadau COMAH a fedrant fod yn berthnasol i rai prosesau CCS mewn gorsafoedd ynni.
Cynllun Masnachu Allyriadau’r UE (EUETS)
Byddwn yn rhoi caniatâd EUETS i orsafoedd ynni a gosodiadau diwydiannol ynni-ddwys sy’n rhychwantu gollwng deuocsid carbon. O Ionawr 2013 rhaid bod gan weithredwyr gweithgareddau dal, cludo a storio deuocsid carbon ganiatâd EUETS. Gweler ein tudalen gwe EUETS am fwy o wybodaeth:
- class="standard">Cynllun Masnachu Allyriadau’r Undeb Ewropeaidd (EUETS)
Parod i Ddal Carbon (CCR)
Rydym yn cynghori’r Llywodraeth ynghylch ceisiadau newydd i adeiladu gorsafoedd ynni er mwyn sicrhau eu bod yn barod i ddal carbon ac y medrent osod CCS rhywbryd yn ddiweddarach.
Asesiad Risg Amgylcheddol ar gyfer Dal a Storio Carbon 2011
Fel rhan o’n paratoadau i reoleiddio CCS rydym wedi cynnal asesiad risg amgylcheddol (ERA) a gyhoeddasom yn Ebrill 2011.
Mae crynodeb o’r canfyddiadau allweddol fel a ganlyn
- Disgwyliwn fedru rhoi caniatadau amgylcheddol ar gyfer pob un o’r technolegau CCS a gynigir ar hyn o bryd.
- Credwn nad oes angen rheoliadau amgylcheddol ychwanegol er mwyn rhychwantu gweithgareddau CCS.
- Mae CCS yn ymwneud â defnyddio technoleg sy’n bodoli eisoes, felly mae’r risg i’r amgylchedd yn llai o gryn dipyn o’i gymharu â defnyddio technoleg newydd.
- Mae CCS yn ymwneud â defnyddio sylweddau sy’n bodoli eisoes, felly mae’r risg i’r amgylchedd yn llai o gryn dipyn o’i gymharu â phrosesau sy’n cynhyrchu neu’n defnyddio sylweddau newydd yn fwriadol.