Ein safbwynt ar ynni niwclear

Mae'n bosibl y caiff llawer o arian ei fuddsoddi mewn gorsafoedd ynni niwclear newydd i fynd i'r afael â'r heriau ynni hirdymor y mae'r DU yn eu hwynebu.

Ein safbwynt

Mae ein safbwynt ar ynni niwclear fel a ganlyn:

  • rydym yn cydnabod rôl ynni niwclear o ran cynhyrchu trydan carbon isel fel rhan o'r cymysgedd ynni cenedlaethol
  • rydym yn mynnu bod gosodiadau niwclear yn cyrraedd safonau uchel o ran diogelwch, diogelu'r amgylchedd a rheoli gwastraff ymbelydrol
  • rydym o'r farn y dylai'r Llywodraeth a'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear barhau i ddangos ymrwymiad credadwy i wneud cynnydd o ran gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol.
  • Ein safbwynt ar ynni niwclear (PDF, 343KB)
  • Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd - Niwclear