Mae ein data rhybuddion llifogydd a hydrometrig ar gael gyda chaniatâd trwyddedig i sefydliadau ac unigolion at ddiben datblygu cynhyrchion, cymwysiadau a gwasanaethau, megis rhybuddion llifogydd wedi'u teilwra.
Mae eisiau ac angen pethau gwahanol ar sefydliadau ac unigolion gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r gwasanaethau rydym ni'n darparu, megis ein rhybuddion llifogydd a gwybodaeth lefel afonydd. Rydym ni eisiau ei gwneud hi mor hawdd a hyblyg ag sy'n bosibl i sefydliadau gael mynediad at ein data a gwybodaeth er mwyn datblygu cynhyrchion, cymwysiadau a gwasanaethau wedi'u teilwra.
Sut gall sefydliadau gael mynediad at y data/gwybodaeth?
Gall unrhyw un wneud cais i gael trwydded i ddefnyddio ein data, er bod yna gostau ac amodau cysylltiedig â defnyddio'r data. Bydd y caniatâd a roddir fel rhan o'r drwydded yn adlewyrchu'r ffordd y dymunwch ddefnyddio'r data. Mae'r prif ddefnyddwyr yn cwympo i'r categorïau canlynol:
- Ailwerthwyr am Werth a Ychwanegwyd (VARs) - a fydd yn cymryd y data ac yn ei becynnu i gymwysiadau a gwerthu'r gwasanaeth i'w cwsmeriaid. Mae'r VARs canlynol wedi’u trwyddedu i ddefnyddio ein data ar hyn o bryd:
- Halcrow
- Shoothill
- JBA Consulting
- Cwsmeriaid Uniongyrchol - sefydliadau neu unigolion fydd yn defnyddio'r data a gyflenwir gan y gwasanaeth hwn i greu eu cymwysiadau mewnol eu hunain.
Yn ogystal, rydym yn datblygu gwasanaeth rhybuddion llifogydd wedi'i dargedu i ymatebwyr Categori 1 a 2 (Deddf Sifil Wrth Gefn 2004).
Pa ddata/gwybodaeth sydd ar gael?
Ar hyn o bryd, rydym yn darparu trwydded ar gyfer dwy set o ddata:
1. Rhybuddion Llifogydd - mae ein data rhybuddion llifogydd byw a data GIS cysylltiedig, neu bolygonau, ar gael i'n hardaloedd rhybuddion llifogydd.
2. Hydrometrig (lefelau afonydd a'r môr) - gallwn ddarparu data lefelau afonydd a'r môr ar gyfer y lleoliadau a ddangosir ar ein gwefan. Mae'r data'n cynnwys darllediadau bob 15 munud ynghyd â data sylfaenol yr orsaf, y dyddiad, yr amser a gwerth pob darllediad.
Oes rhaid i ddefnyddwyr dalu am y data/gwybodaeth?
Os dymunwch gael mynediad at ein data bydd angen i chi dalu am drwydded ynghyd â chost cael mynediad at y data a chostau dilynol o ran cefnogi eich gwasanaeth. Os rydych yn bwriadu ail-werthu'r wybodaeth yn fasnachol, bydd rhaid i chi dalu breindaliadau am y cynhyrchion a'r gwasanaethau rydych yn eu creu. Byddwn yn cadw pob cost i isafswm ac yn ymdrechu i dalu am y gost o ddarparu’r gwasanaeth yn unig.
Mae gwybodaeth rhybuddion llifogydd a lefelau afonydd a'r môr eisoes ar gael yn rhad ac am ddim i bobl nad ydynt eisiau talu am y wybodaeth trwy wneud y canlynol:
Mae ein data (rhybuddion llifogydd a lefelau afonydd a'' môr) ar gael ar drwydded ac am bris i unigolion a sefydliadau sydd ag anghenion ychwanegol ac eisiau gwasanaeth wedi’i deilwra.
Mwy o Wybodaeth
Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb mewn cael mynediad at ein data, cysylltwch â ni ar Enquiries@environment-agency.gov.uk neu 0370 8506506, gan ofyn i siarad ag ymgynghorydd am Rybuddion Llifogydd a Seilwaith.