Astudiaeth o Ansawdd Aer Amgylchynol yn y Gelli, Rhondda rhwng 27 Ebrill 2004 a 19 Rhagyr 2004

Mae'r crynodeb hwn yn rhoi'r canlyniadau o'r astudiaeth o ansawdd aer amgylchynol yng nghyffiniau safle tirlenwi Nant-y-Gwyddon yn y Gelli.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan broses Monitro ac Asesu (M ac A) Asiantaeth yr Amgylchedd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. 

Beth wnaethom

Defnyddiodd Monitro ac Ansawdd ei Gyfleuster Monitro Symudol (MMF) i'r Gogledd Orllewin o safle tirlenwi Nant-y-Gwyddon, ar gae chwarae Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn, yn y Gelli, rhwng 27 Ebrill 2004 a 19 Rhagfyr 2004 (237 diwrnod).

Roedd disgwyl i offer y labordy fesur y llygryddion allweddol canlynol yn barhaus:

  • Ocsidau Nitrogen (NOx)
  • gronynnau mân (PM10 a llai)
  • Sylffwr Deuocsid (SO2)

Beth wnaethom ei ganfod

Wrth gymharu'r data a gasglwyd o'r monitro yn y Gelli ag amcanion y Safonau Ansawdd Aer (AQS), dangoswyd bod y lleoliad monitro yn agored i grynodiadau o PM10, SO2, NO2 a NOX a oedd yn debygol o fodloni eu hamcanion Safonau Ansawdd Aer priodol.

Mae gan yr amcan Safonau Ansawdd Aer ar gyfer diogelu llystyfiant ac ecosystemau safon flynyddol ar gyfer NOX o 30 µg/m3. Y crynodiad NOX cymedrig yn ystod y cyfnod astudio oedd 13.5 µg/m3, h.y. 45% o'r safon Ansawdd Aer.

Nid oedd y crynodiad o PM10 ar y safle monitro yn fwy na'r amcan Safonau Ansawdd Aer cyfredol na'r amcanion Safonau Ansawdd Aer dros dro.

Cymharwyd crynodiadau llygryddion â safonau ansawdd aer y Llywodraeth ar gyfer diogelu iechyd bodau dynol a chanllawiau eraill. Canfuwyd bod crynodiadau o SO2 , NO2, NOX yn "isel" yn ôl y Bandiau Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer trwy gydol yr astudiaeth. Canfuwyd bod y crynodiadau o PM10 yn "gymedrol".