Adolygiad Pitt - Gwersi a ddysgwyd yn dilyn llifogydd haf 2007

Adroddiadau a gyhoeddwyd yn dilyn llifogydd haf 2007, gan gynnwys adroddiad terfynol Adolygiad Pitt, ymateb y Llywodraeth iddo, ac adroddiadau cynnydd.

Adroddiad Cynnydd ar ymateb y Llywodraeth i Adolygiad Pitt - Rhagfyr 2009

Ar 15 Rhagfyr 2009, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol yr ail adroddiad cynnydd yn nodi manylion ynglŷn â'r cynnydd y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o ran gweithredu'r argymhellion yn adroddiad Syr Michael Pitt ar lifogydd haf 2007.

Adroddiad cynnydd ar ymateb y Llywodraeth i Adolygiad Pitt - Mehefin 2009

Ym mis Mehefin 2009, cyhoeddodd y Llywodraeth y cyntaf o'i chwe adroddiad misol ar y cynnydd a wnaed yn gweithredu'r argymhellion yn adolygiad annibynnol Syr Michael Pitt o lifogydd haf 2007.

Ymateb y Llywodraeth i Adolygiad Pitt - Rhagfyr 2008

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol ymateb y Llywodraeth i adolygiad Syr Michael Pitt o lifogydd haf 2007.  Bydd cynllun gweithredu'r Llywodraeth yn ein helpu i sicrhau, fel gwlad, ein bod ni oll yn fwy parod ar gyfer llifogydd - cyn, yn ystod ac ar ôl iddynt ddigwydd.

Adolygiad Annibynnol y Llywodraeth o lifogydd haf 2007 - Mehefin 2008

Ar 25 Mehefin 2008, cyhoeddoddd Syr Michael Pitt ei adroddiad terfynol i lifogydd haf 2007. Mae'r adroddiad yn archwilio sut i leihau perygl ac effaith llifogydd, a'r ymateb brys i'r llifogydd ym mis Mehefin a Gorffennaf 2007.