Ar ddechrau 2002, rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gyllid ychwanegol i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar gyfer prynu a gweithredu labordy ansawdd aer symudol. Mae'r Labordy bellach ar gael i'w ddefnyddio ledled Cymru i nodi materion ansawdd aer sy'n ymwneud â diwydiannau pwysig neu i gefnogi Rheolaeth Ansawdd Aer Awdurdod Lleol. Defnyddir y Labordy yn ogystal ag offer presennol Asiantaeth yr Amgylchedd sydd ar gael ledled Cymru a Lloegr.
Manylion
Mae'r labordy yn cynnwys "ground-hog" echelau dwbl sy'n cynnwys cyfres gynhwysfawr o ddadansoddwyr ar gyfer monitro ystod o lygryddion yn barhaus. Yn ogystal ag offer monitro ar gyfer PM-10, SO2 a NOx, mae hefyd yn gallu monitro CO, H2S, Methan a chyfres o VOCau. Mae gorsaf dywydd yn mesur Pwysau Barometrig, Tymheredd, Lleithder Cymharol, Cyfeiriad y Gwynt a Chyflymder y Gwynt ar gyfer dosrannu'r ffynhonnell.
Galluoedd
Disgwylir bod modd defnyddio'r labordy i asesu effaith llygredd o safleoedd diwydiannol sy'n cael eu rheoleiddio gan yr Asiantaeth neu Awdurdodau Lleol, tirlenwi, a thraffig ffyrdd ar iechyd bodau dynol a chynefinoedd naturiol. Bydd y labordy yn cael ei ddefnyddio mewn mannau sefydlog yn y gymuned am 3 neu 4 mis er mwyn gallu ystyried amrywiadau yn amodau'r hinsawdd. Bydd adroddiadau'n cael eu llunio yn cymharu'r crynodiadau o lygryddion yn erbyn gwerthoedd cyfyngu yn y Strategaeth Ansawdd Aer Genedlaethol a chanllawiau eraill.
Rheoli a Gweithredu
Mae grŵp rheoli wedi cael ei sefydlu gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Fforwm Ansawdd Aer Cymru a'r Asiantaeth i asesu ceisiadau am swyddi a blaenoriaethu'r rhaglen waith. Mae'r offer yn cael ei weithredu a'i raddnodi yn unol ag Arweiniad LAQM ac felly dylai gynhyrchu data y gellir ei gymharu ag AURN a gorsafoedd monitro parhaol Awdurdodau Lleol.