Mae ‘pysgodfeydd’ yn cyfeirio at bysgod, eu cynefinoedd, ac at y gweithgareddau pysgota y maen nhw’n eu cynnal.
Maen nhw’n rhan o waed einioes ein hamgylchedd naturiol ac yn asedau hanfodol i gymdeithas ac i’r byd naturiol ill dau. Nid yn unig y mae afonydd, ffrydiau a llynnoedd glân yn rhoi pleser ynddyn nhw’u hunain, ond mae llawer hefyd yn dibynnu ar eu hiechyd.
At hynny, mae pedair miliwn o enweirwyr yn gwario tua £3 biliwn y flwyddyn ar eu difyrrwch, gyda chynnal llawer o swyddi mewn ardaloedd cefn gwlad a threfol ill dau.
O afonydd mawr iseldiroedd Dwyrain Lloegr i ffrydiau bychain yn ucheldiroedd Cymru, ac o Lynnoedd Cumbria i gamlesi Gorllewin Canolbarth Lloegr, mae gwarchod iechyd ein pysgodfeydd yn hanfodol.
Felly, sut y mae hi ar ein stociau pysgod?
Mae’r darlun at ei gilydd yn weddol galonogol, a rhai straeon llwyddiant aruthrol o galonogol ond rhai pryderon difrifol iawn hefyd.
Mae niferoedd pysgod breision yn chwyddo mewn llawer o’n hafonydd. Yn yr arolwg diweddaraf, roedd pysgod yn bresennol mewn dros 98% o safleoedd, a 50% yn cynnwys wyth neu fwy o rywogaethau. Mae hyn yn welliant mawr o’i gymharu â degawd yn ôl.
Mae stociau eog wedi lleihau’n ddifrifol, a stociau pysgod aml-môr-gaeaf yn neilltuol felly. Fodd bynnag, mae stociau ar rai afonydd oedd gynt yn llygredig, gan gynnwys Tyne, Tees ac afonydd Cymoedd De Cymru, wedi gwella’n ddramatig.
Mae stociau brithyll môr yn gwneud yn dda iawn, gyda rhoi gwybod am ddalfa sylweddol fwy yn 2002 nag yn 2001, a hefyd yn fwy na’r cyfartaledd am y pum mlynedd a aeth heibio.
Mae stociau llysywod yn enbyd o isel. Mae’r nifer o lysywod ifainc sy’n dod yn eu holau i’n hafonydd wedi disgyn i ddim ond 1% o lefelau hanesyddol. Ni wyddom yn iawn pam y mae hyn, ond efallai bod newidiadau yn amgylchedd y môr yn arbennig o arwyddocaol.
Pa ffactorau sy’n effeithio ar y stociau hyn?
Mae dŵr ffo o gaeau, gan gynnwys silt, plaladdwyr a gwrteithiau, yn peri niwed difrifol i gynefinoedd dyfrol, pysgod a bywyd gwyllt arall. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymroddedig i weithio gyda’r gymuned ffarmio ac eraill i ymorol am well diogelu ar gyfer cynefinoedd dŵr croyw a’r poblogaethau pysgod sy’n dibynnu arnyn nhw.
Mae elifion o gartrefi a diwydiannau ac echdynnu dŵr hefyd yn gallu diraddio cynefinoedd ac ansawdd dŵr, gan effeithio’n ddifrifol ar bysgod a’r creaduriaid y maen nhw’n eu bwyta. Mae gofyn i ni hoelio mwy o sylw ar sylweddau allai fod yn niweidiol megis cemegau sy’n amharu ar endocrin sy’n gallu mynd i mewn i gyrff o ddŵr.