What happens next?

Find out what's happening next at the former Brofiscin Quarry site

Adfer y chwaerl

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi canfod mai dull orau adfer y chwarel yw gosod cap peirianedig ar ben swmp y gwastraff yn y chwarel.

Rydym yn hyderus na fydd ein cynlluniau ni’n effeithio er gwaeth ar na’r chwarel na’r ardal o’i chwmpas. Cadwn olwg, serch hynny, ar ollyngiadau anwedd cyn, yn ystod ac wedi gosod y cap peirianedig, er mwyn sicrhau na fydd effaith ddrwg. Wedi’r capio, byddwn yn dadansoddi canlyniadau’r arolwg anwedd er mwyn gweld a oes angen rhagor o waith delio ag anwedd daear.

Yn y tymor hir, byddwn yn cadw golwg ar ansawdd dŵr wyneb a dŵr daear er mwyn sicrhau fod yr adfer yn effeithiol.

Camau nesaf

Ddydd Iau’r 1af o Fedi 2011 cawsom ganiatâd cynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer dechrau ein cynllun adfer ni.  

Cliriwyd llystyfiant y safle, a dechreuwyd y gwaith peirianegol yn Hydref 2011.

Dyer a Butler, ein contractwyr arbenigol ni, sy’n rheoli’r gwaith peirianegol, tan oruchwyliaeth y peirianwyr cynllunio, Geotechnology.

Bydd y ddau gwmni’n gweithio mewn modd diogel, ystyrlon er mwyn amharu cyn lleied ag y bo modd ar y gymuned. Disgwylir cwblhau’r gwaith erbyn wythnos gyntaf Chwefror 2012.

Am wybodaeth fanylach, darllenwch ein newyddlen ddiweddaraf ni.

Gallwch lawrlwytho ein newyddlen ni yma (PDF, 127kb)

Canfod rhagor

Am ragor o wybodaeth am ganfyddiadau’r astudiaeth iechyd dynol, ewch at dudalen Rheoli Llygredd gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, neu galwch  01443 425777. Am ragor o wybodaeth am y cynllun adfer arfaethedig, galwch 02920 245330.