Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru’n trwyddedu busnesau, diwydiant ac unigolion i gyflawni gweithgareddau neilltuol a ddichon lygru’r amgylchedd.
Neges Bwysig
O’r 1af o Ebrill 2013 ymlaen, bydd y gofrestr gyhoeddus hon yn parhau i ddarparu gwybodaeth ar gyfer Cymru a Lloegr. Os dymunwch ragor o wybodaeth ynghylch y gwasanaeth yn Lloegr, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd; neu os oes a wnelo’ch ymholiad â Chymru, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Pan gawn gais am drwydded, rydym yn peri bod y cais hwnnw, a gwybodaeth berthnasol arall, ar gael i’r cyhoedd. Gwnawn hyn cyn penderfynu a ddylid rhoi’r drwydded, neu pa amodau a roddwn wrthi.
Wedi rhoi unrhyw drwydded, perir bod rhagor o wybodaeth ar gael ar y cofrestrau. Nodweddiadol fyddai i honno gynnwys gwybodaeth arolygu, manylion unrhyw dorri ar amodau’r drwydded, unrhyw orfodi gennym ni, ac unrhyw geisiadau i newid amodau’r drwydded.
Diweddariad cyffredinol
Sylwch y gellir dangos sawl canlyniad ar gyfer yr un cofrestriad. Hynny oherwydd adnewyddu’r cofrestriad, neu unrhyw newidiadau (newid cyfeiriad, e.e.).
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol
Daeth y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol i rym yn Ebrill 2010, gan gyfuno’r Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (ArhLl), Trwyddedu Rheoli Gwastraff, caniatáu Gollwng Dŵr, caniatáu Dŵr Daear a Rheoleiddio Sylweddau Ymbelydrol blaenorol.
Y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol
Bydd y gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (CAD) yn disodli’r saith Cyfarwyddeb bresennol rydym yn eu gweithredu ar hyn o bryd trwy’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (RhTA): Atal a Rheoli Llygredd cyfun, Gweithfeydd Ymlosgi Mawrion, Hylosgi Gwastraff, Deuocsid Titaniwm (tair cyfarwyddeb) ac Allyriadau Toddyddion.
Diwygiwyd y RhTA er mwyn gweithredu’r CAD yng Nghymru a Lloegr, a darparu un drefn gydlynol. Bydd dogfennau ynglŷn â’r penderfyniadau trwyddedu yn safleoedd newydd eu trwyddedu ar gael o’r 7fed o Ionawr 2014 ymlaen.
Y mae argaeledd y dogfennau hyn yn un o ofynion y gyfarwyddeb, a gellir eu canfod yn
Os oes arnoch angen gwybodaeth parthed safleoedd Cymru, ewch at
Defnydd Masnachol
Yn ogystal â'r hawliau defnyddio a roddir yn yr hysbysiad hwnnw, gallwch gymryd un copi o unrhyw ran o gynnwys ein Hadran Cofrestr Gyhoeddus, ar yr amod y deallwch nad ydym yn rhoi unrhyw ganiatâd hawlfraint yng nghyswllt detholiadau o'r fath sydd wedi'u copïo.