Darllenwch Gynlluniau Rheoli Llifogydd Dalgylch (CRhLlD) cryno a datganiadau ôl-fabwysiadu ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Mae 22,000 o adeiladau mewn perygl o lifogydd o afonydd a'r môr yng Nghymru. Rydym wedi llunio naw CRhLlD ar gyfer Cymru.
Mae pob CRhLlD yn cwmpasu un dalgylch afon cyfan neu grŵp o ddalgylchoedd. Mae CRhLlD Gwy ac Wysg, y Cymoedd Dwyreiniol a Thaf ac Elái yn cwmpasu de-ddwyrain Cymru. Mae CRhLlD Ogwr i Dawe (gan gynnwys Ddawan a Thregatwg), Llwchwr i Daf ac Afonydd Sir Benfro a Cheredigion yn cwmpasu de-orllewin Cymru. Mae CRhLlD Gogledd-orllewin Cymru, Conwy a Chlwyd ac Afon Dyfrdwy yn cwmpasu gogledd Cymru. Mae dalgylch Hafren uchaf yng nghanolbarth Cymru yn rhan o CRhLlD Hafren, a luniwyd gan Ranbarth Canolbarth Lloegr.
Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i'r CRhLlD cryno a'r datganiad ôl-fabwysiadu ar gyfer eich ardal chi.
Ble allaf gael rhagor o wybodaeth?
Adroddiadau cryno a datganiadau ôl-fabwysiadu
1. Gwy ac Wysg 
2. Y Cymoedd Dwyreiniol
3. Taf ac Elái
4. Ogwr i Dawe (gan gynnwys Ddawan a Thregatwg)
5. Llwchwr i Daf
6. Afonydd Sir Benfro a Cheredigion
7. Gogledd-orllewin Cymru
8. Conwy a Chlwyd
9. Afon Dyfrdwy