Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ar yr ymgynghoriadau y byddwn yn eu cyflawni wrth i ni ddatblygu ail rownd y cynlluniau rheoli basn afon (RBMPs)
Yn Rhagfyr 2009, cyhoeddodd Asiantaeth yr Amgylchedd gynlluniau rheoli basn afon (RBMPs) yn cwmpasu holl amgylcheddau afonydd Cymru a Lloegr. Roedd y cynlluniau yn amlinellu beth ddylid ei wneud i ddiogelu a gwella’r amgylchedd dŵr. Erbyn hyn mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn adolygu a diweddaru'r cynlluniau, a bydd yn cyhoeddi’r dogfennau diwygiedig yn Rhagfyr 2015.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal ymgynghoriadau ffurfiol yn ystod tri cham o’r broses cynllunio basn afon. Bydd yr ymgynghoriadau hyn yn helpu codi ymwybyddiaeth o’r heriau mae’n hamgylchedd dŵr yn wynebu a sut y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd a’i bartneriaid yn eu taclo.
Mae’r ymgynghoriadau Gweithio gyda’n gilydd yn gofyn sut all Asiantaeth yr Amgylchedd weithio gydag ystod eang o grwpiau ac unigolion i gyflawni’r cynlluniau rheoli basn afon cyntaf a datblygu’r ail gynlluniau rheoli basn afon.
Bydd yr ymgynghoriad SWMIs yn gofyn i chi am eich barn ar beth ydych chi'n feddwl yw'r materion mwyaf arwyddocaol ar gyfer pob rhanbarth basn afon yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y cynlluniau drafft yn gofyn i chi ystyried y materion, mesurau a phartneriaid cyflawni arfaethedig i gyflawni’r gwelliannau yn yr amgylchedd dŵr hyd 2021.
Rhanbarth Basn Afon Solway Tweed
Bydd gwybodaeth ar yr ymgynghoriadau Solway Tweed ar gael ar y ddolen hon:
Ymgynghoriadau blaenorol
Gallwch ddod o hyd i’r dogfennau ymgynghori blaenorol yn eich catalog cyhoeddiadau. Chwiliwch am ‘Dogfen ymgynghori cynllunio basn afon’.