Dŵr am fywyd a bywoliaeth: Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd.
Bydd dyfroedd afonydd, llynnoedd, aberoedd a glannau’r môr yn gwella tan gamau a osodir allan yng Nghynlluniau Rheoli Basnau Afonydd a luniwyd, o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, ar gyfer ardaloedd basnau afonydd ledled Cymru a Lloegr. 
Anelir Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd at warchod a gwella’r amgylchedd dyfrol, ac fe’u datblygwyd trwy ymgynghori â chyrff ac unigolion. Cynhwysant brif bynciau’r ardal basn afon, a’r hyn y mae angen inni oll ei wneud er mwyn eu datrys. Mae pawb yn defnyddio dŵr yn eu bywydau beunyddiol, boed ar gyfer adloniant, diwydiant, amaeth neu yn y cartref.
Cymeradwywyd y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a chan Weinidog Cymru.
Darganfyddwch beth yw ardal basn afon ac ym mha un rydych chi (PDF, 358KB)