Tools to help Lead Local Flood Authorities (LLFAs) consider the impacts of climate change on sources of local flood risk for each River Basin District across England and Wales.
Beth yw hwn?
Rydym wedi cynhyrchu cwrs e-ddysgu a gwybodaeth fanwl am newid yn yr hinsawdd ar gyfer pob Ardal Basn Afon i gynorthwyo'r Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlAau) i ddeall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y perygl o lifogydd wrth iddynt fynd ati i ddatblygu eu strategaethau lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Lloegr.
Pam mae'n bwysig?
Mae peth newid yn yr hinsawdd eisoes yn anochel. Hyd yn oed pe baem yn cyfyngu ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y dyfodol, mae'r nwyon tŷ gwydr sydd eisoes wedi'u rhyddhau yn yr atmosffer wedi pennu'r newidiadau ar gyfer y deng mlynedd ar hugain i ddeugain mlynedd nesaf.
Rydym yn disgwyl i'r newidiadau hyn yn y dyfodol effeithio ar berygl llifogydd. Mae'n debygol y bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at gynyddu glawiad y gaeaf, glaw trymach mewn stormydd eithafol a lefelau'r môr yn codi yn y dyfodol.
Mae addasu i newid yn yr hinsawdd yn rhan hanfodol o reoli perygl llifogydd a sicrhau bod ein cymunedau'n gynaliadwy i fyw a gweithio ynddynt. Mae addasu'n golygu newid yr hyn a wnawn er mwyn lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Gall helpu i ddiogelu buddsoddiadau, lleihau risg i iechyd, a gostwng costau yswiriant.
Pam mae hyn yn bwysig i mi?
Rhaid i'ch strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd:
- asesu perygl llifogydd lleol;
- nodi amcanion yr ALlLlAau ar gyfer rheoli llifogydd lleol;
- rhestru costau a manteision y mesurau arfaethedig ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn, a sut y telir am y mesurau.
Gall effeithiau newid yn yr hinsawdd effeithio ar bob un o'r agweddau hyn ar eich strategaeth leol ar gyfer perygl llifogydd.
Rydym wedi addasu gwybodaeth o ragolygon newid yn yr hinsawdd diweddaraf y llywodraeth, UKCP09, i helpu awdurdodau llifogydd lleol arweiniol i ystyried effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ffynonellau perygl llifogydd lleol ar gyfer pob Ardal Basn Afon yn Lloegr. Rydym wedi cyflwyno'r wybodaeth hon ar ffurf mapiau mewn pdf geo-ofodol, sy'n hygyrch i bawb. Rydym hefyd wedi datblygu adnodd e-ddysgu.
Beth sydd wedi'i gynnwys yn y cwrs e-ddysgu?
Mae'r cwrs e-ddysgu'n egluro dulliau gweithredu ac astudiaethau achos y gallai'r ALlLlAau eu defnyddio yn Lloegr wrth ddatblygu eu strategaethau lleol ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Mae'r cwrs yn disgrifio:
- y ffordd orau o ystyried mapiau llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd, mapiau geo-ofodol pdf (data UKCP09), a setiau data eiddo er mwyn gwella dealltwriaeth o sensitifrwydd eich ardal i berygl llifogydd sy'n newid;
- astudiaethau achos gydag argymhellion ar gyfer mynd ati i fodelu perygl llifogydd lleol.
Gallwch ddod o hyd i'r modiwl e-ddysgu gwybodaeth newid yn yr hinsawdd yma:
Nodwch mai adnodd e-ddysgu ar gyfer Lloegr yn unig yw hwn. Rydym yn bwriadu cynhyrchu adnodd e-ddysgu ar wahân ar gyfer Cymru a fydd ar gael cyn bo hir yn 2012.
Gwybodaeth newid yn yr hinsawdd ar gyfer pob Ardal Basn Afon
Mae'r mapiau geo-ofodol digidol hyn ar gael ar gyfer pob Ardal Basn Afon. Mae'r rhain yn cynnwys y rhagolygon hinsawdd diweddaraf ar gyfer y DU (UKCP09) sy'n berthnasol i berygl llifogydd lleol.
Nodwch fod y ffeiliau yn y rhestr hon yn fawr iawn ac yn debygol o gymryd amser i lawrlwytho.
- Anglian (PDF, 3.8MB)
- Afon Dyfrdwy (PDF, 2.3MB)
- Humber (PDF, 11MB)
- Northumbria (PDF, 6.2MB)
- Gogledd-orllewin Lloegr (PDF, 10MB)
- Afon Hafren (PDF, 5MB)
- Solway Tweed (PDF, 6MB)
- De-ddwyrain Lloegr (PDF, 3MB)
- De-orllewin Lloegr (PDF, 3MB)
- Afon Tafwys (PDF, 6MB)
Bydd Gorllewin Cymru ar gael ym mis Ionawr 2012.