Rhaglen o gynlluniau rheoli risg llifogydd ac arfordirol

Cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd a gynhelir gan Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol a byrddau draenio mewnol.

Rhaglenni Pwyllgorau Rhanbarthol Llifogydd ac Arfordir ar gyfer prosiectau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd 2012/13

Mae rhagor o wybodaeth am bob rhaglen i’w gweld ar y dudalen glawr.

Mae pob cynllun yn y rhaglenni rhanbarthol wedi’u gosod yn erbyn dulliau o fesur canlyniadau.

Mae Rhaglenni Cyfalaf Rhanbarthol 2012/13 yn dangos pa gynlluniau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd yn Lloegr sydd wedi derbyn cyllid Cymorth Grant Defra. Cymeradwyodd Bwrdd Asiantaeth yr Amgylchedd y dyraniadau terfynol ym mis Chwefror 2012 yn dilyn argymhellion y Pwyllgorau Rhanbarthol Llifogydd ac Arfordir. Mae'r dyraniad cyllid yn amodol ar bolisi newydd Defra ar gyllido Partneriaeth Gwrthsefyll Llifogydd a Gwytnwch Arfordirol.

Pwy fydd yn rheoli’r prosiectau yn y rhaglenni rhanbarthol?

Bydd y rhan fwyaf o'r prosiectau yn y rhaglenni rhanbarthol yn cael eu rheoli gan Wasanaeth Rheoli Rhaglen Gyfalaf Genedlaethol Asiantaeth yr Amgylchedd (ncpms). Am fanylion pellach am y prosiectau (fel Gweithredwr Prosiect, Rheolwr Prosiect ac ati), ffoniwch y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Cyswllt Cwsmeriaid ar 03708 506 506 a gofynnwch am gael siarad â Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol ncpms ar gyfer y rhaglen ranbarthol berthnasol.

Cyllid i amddiffyn rhag llifogydd ar lefel eiddo 2012-13

Cyllidir Amddiffyn rhag Llifogydd ar Lefel Eiddo bellach o fewn rhaglenni'r Pwyllgorau Rhanbarthol Llifogydd ac Arfordir o ran prosiectau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd 2012/13 - a gellir eu lawrlwytho ar frig y dudalen.

Cyllid a chynlluniau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd yng Nghymru

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid i Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac i Awdurdodau Rheoli Risg eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol. Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru £27 miliwn o Gymorth Grant ar gael yn 2012/13. Bydd £2 filiwn ychwanegol  o gyllid yn dod oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd a gaiff ei ddyrannu gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cyflawni cynlluniau i amddiffyn rhag llifogydd ac arfordiroedd pwysig yn Riverside yng Nghasnewydd, Pwll yn Llanelli (De-orllewin Cymru) a Gele yng Ngogledd Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon (2012/13). Maent hefyd yn bwriadu cwblhau cynlluniau yn Ystradgynlais a Phorthmadog, a datblygu prosiectau ar gyfer y dyfodol fel Cwm Tawe a'r Friog.

Rheoli Erydiad Arfordirol a Llifogydd

Edrychwch pa gynlluniau rheoli sydd ar y gweill yn y eich ardal: Rhowch eich cod post neu enw lle i ddod o hyd iddo.