What is RSS?

Mae RSS (Really Simple Syndication) yn fformat dosbarthu a rhannu cynnwys y we. Gallwch weld porthiadau o amryw ffynonellau mewn un man cyn gynted ag y’u cyhoeddir, heb orfod mynd i’r wefan y cymerasoch chi’r porthiad ohoni. 

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnig porthiadau rhybuddion llifogydd mewn fformat XML (“Cynnwys RSS”) at borwyr sy’n medru derbyn RSS neu ddarllenwyr newyddion. Mae’r porthiadau’n cynnwys crynodeb byr a dolen at y cynnwys llawn ar y wefan. 

Sut mae dechrau defnyddio porthiadau?

Defnyddio’ch porwr chi
Mae rhai porwyr yn chwilio am borthiadau ar eich cyfer chi cyn gynted ag yr ymwelwch â gwefan, gan ddangos eicon pan ganfyddant un. Os yw’r logo RSS yn ymddangos yn y blwch URL ar dalcen eich porwr chi, dwbl-gliciwch ef, dewiswch y dull tanysgrifio, a chliciwch y botwm “tanysgrifiwch yn awr”. Os nad yw’r logo RSS yn ymddangos yn y blwch URL, yna ni all eich porwr chi ddygymod ag RSS, a bydd angen i chi gael darllenwr newyddion. 

Defnyddio darllenwr newyddion
“Darllenwr newyddion” yw meddalwedd sy’n chwilio’r porthiadau ac yn caniatáu i chi ddarllen unrhyw erthyglau newydd a ychwanegwyd o amryfal ffynonellau. Mae sawl gwahanol fath: gellir cael mynediad at rai trwy ddefnyddio porwr, a gellir lawrlwytho eraill.
Pan fo porthiad ar gael, gallwch danysgrifio trwy glicio’r botwm RSS sy’n ymddangos ar ochr dde’r dudalen. Yna llusgwch URL y porthiad i’ch darllenwr newyddion chi, neu torrwch a glynwch yr un URL i borthiad newydd yn eich darllenydd newyddion chi.  

Porthiadau Asiantaeth yr Amgylchedd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnig y porthiadau RSS canlynol.

  • Porthiadau rhybuddion llifogydd
    Cynigiwn borthiadau rhybuddion llifogydd cenedlaethol a rhanbarthol, a roddant nifer y rhybuddion llifogydd sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Defnyddio porthiadau newyddion Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer eich safle chi

Er yn annog defnyddio porthiadau newyddion RSS Asiantaeth yr Amgylchedd yn rhan o wefan, mynnwn fod rhaid priodoli newyddion Asiantaeth yr Amgylchedd pan ymddangosont. Dylai’r testun priodoli ddweud “Newyddion Asiantaeth yr Amgylchedd”. Ni chewch ddefnyddio unrhyw logo o eiddo Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ceir y manylion llawn yn yr Amodau a Thelerau.