Asiantaeth yn rhybuddio am law trwm a llanw uchel

07-Jun-2012

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru’n annog pobl i fod yn wyliadwrus wrth i law trwm a llanw uchel fygwth llifogydd lleol ledled Cymru.

Mae’r rhagolygon y tywydd yn dangos y bydd y gwyntoedd cryfion a glaw trwm parhaus yn effeithio ar y rhan fwyaf o siroedd Cymru heno a hyd at ddydd Gwener.

Ar arfordir de Cymru, gallai’r gwyntoedd cryfion heno a bore yfory godi ymchwydd, mawr yn y tonnau a chwythu ewyn y môr ar yr arfordir.

Cafodd pedwar rhybudd brys llifogydd eu cyhoeddi ar gyfer Aber Afon Gwy, Aber Afon Wysg, Bae Abertawe a’r arfordir o Aberddawan i Bont Hafren.

Fel y bydd y llif yn codi mewn afonydd gallai rhagor o rybuddion llifogydd cael eu cyhoeddi ar frys yn ogystal â rhai rhybuddion llifogydd lleol.

Gallai'r gwyntoedd cryf beri difrod i goed a gallai malurion flocio draeniau ac achosi llifogydd lleol.

Mae swyddogion yr Asiantaeth ar hyn o bryd yn cadw golwg ar amddiffynfeydd llifogydd ac yn clirio rhwystrau a allai achosi llifogydd.

Mae’r Asiantaeth yn cynghori pobl i wrando ar adroddiadau ac ar y newyddion lleol diweddaraf ynghylch tywydd a thraffig ar radio neu deledu, neu os yn bosibl, edrych ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan y Swyddfa Dywydd.

Dylai pawb yrru’n ofalus, gallai’r amodau fod yn beryglus, yn enwedig fore dydd Gwener, a dylai pobl wrando ar adroddiadau traffig am gyngor a gwybodaeth am unrhyw aflonyddwch lleol.

Dylai pawb gofio fod dŵr llifogydd yn gallu bod yn eithriadol o beryglus ac na ddylai neb geisio cerdded na gyrru trwy ddŵr llifogydd o dan unrhyw amgylchiadau na cheisio tynnu unrhyw rwystrau y maen nhw’n dod ar eu traws.  

Dylai unrhyw un sy’n bryderus fod rhwystrau yn eu hafon leol gysylltu â llinell boeth yr Asiantaeth ar 0800 80 70 60.

Am y diweddaraf ar rybuddion llifogydd ewch at http://www.environment-agency.gov.uk/flood neu ffoniwch Floodline 0845 988 1188.