Ailddefnyddio dŵr llwyd a chywain dŵr glaw

Canfyddwch sut y gallwch ailddefnyddio dŵr llwyd a dŵr glaw ar gyfer dyfrio'r ardd a fflysio toiled.

Crynodeb

Mae ynfydrwydd ymddangosiadol defnyddio dŵr yfed ffres i fflysio toiled neu ddyfrio'r ardd yn esbonio'n rhannol beth yw apêl ailddefnyddio dŵr baddon a chawod neu law oddi ar y to ar gyfer y pwrpasau hyn.

Fodd bynnag, i gartrefi'r DU, mae’n fwy cost effeithlon i arbed dŵr nag ailddefnyddio dŵr glaw neu ddŵr llwyd. Hefyd, mae mesurau effeithlonrwydd yn arbed ynni ac allyriadau CO2, tra bydd systemau dŵr llwyd a dŵr glaw yn aml yn cynyddu'r cyfanswm o ynni a ddefnyddir ac allyriadau CO21. Hyd yn oed o safbwynt amgylcheddol yn unig, dylid rhoi blaenoriaeth i gamau cost effeithiol gan eu bod yn rhoi gwell buddiannau am wariant penodol. Ar gyfer datblygiadau domestig neu fasnachol cymunedol mawr, gall yr economeg fod yn well.

Pan fydd ar erddi angen llawer o ddyfrio, gall systemau dargyfeirio dŵr llwyd syml, cost isel hefyd arbed meintiau sylweddol o ddŵr ar gyfnod o alw brig. Yn yr un modd, mae'r gasgen ddŵr ddi-nod yn gallu dal glaw o gawodydd haf gan adael i arddwyr fedru dyfrio lle mae mwyaf o angen.

Ailddefnyddio dŵr llwyd

Mae dŵr llwyd yn cyfeirio at holl ddŵr gwastraff cartref heblaw am ddŵr gwastraff o'r toiled (dŵr du). Mae dŵr llwyd o faddonau, cawodydd a sinciau ymolchi yn llai llygredig na dŵr o'r gegin.

Fel arfer, mae systemau ailddefnyddio domestig yn casglu dŵr llwyd a'i storio cyn ei ailddefnyddio i fflysio’r toiled. Mae systemau mwy datblygedig yn trin dŵr llwyd i safon, fe honnir, y gellir ei ddefnyddio mewn peiriannau golchi ac yn yr ardd. Mae'r systemau mwyaf sylfaenol yn syml yn dargyfeirio dŵr baddon oer a dŵr heb ei drin i ddyfrio'r ardd.

Mae systemau ar gyfer fflysio toiled yn gallu arbed tua thraean o'r galw dŵr cartref dyddiol. Dangosodd prawf gan Asiantaeth yr Amgylchedd bod amrediad yr arbedion dŵr o tua phump y cant i tua 36 y cant2. Gan fod adeiladau mwy newydd yn tueddu i fod â defnydd toiled is, byddai uchafswm yr arbedion mewn adeilad newydd yn nes at 20 y cant.

Pa driniaeth sy’n angenrheidiol?

Gall problemau godi pan fydd dŵr llwyd cynnes, cyfoethog mewn maetholion yn cael ei storio, gan ei fod yn fagwrfa i facteria. Ar hyn o bryd mae tri dull o ddelio â’r broblem hon.

Y cyntaf yw cyfyngu'r amser y mae'r dŵr llwyd yn cael ei storio. Gall y systemau hyn gynnwys falf gollwng wedi'i rheoli'n electronig i wagio'r tanc storio wedi cyfnod o ddiffyg gweithrediad cyn ail lenwi gyda dŵr o'r prif gyflenwad.

Yr ail ddull yw defnyddio diheintyddion cemegol megis cyfansoddion clorin neu fromin sy'n atal gweithgaredd biolegol ac yn ymestyn y mwyafswm amser storio.

Y trydydd dull yw trin y dŵr llwyd mewn ffatri trin carthffosiaeth fechan, naill ai drwy ddefnyddio dulliau biolegol traddodiadol neu dechnoleg hidlo pilen fwy newydd. Mae'r dŵr sydd wedi'i drin yn glir ac yn rhydd o arogleuon annymunol ac yn cynnwys ychydig iawn o fater organig, sy'n caniatáu iddo gael ei storio a'i ailddefnyddio. Fodd bynnag, mae hyn yn defnyddio llawer iawn o ynni ac yn ddrud iawn.

Gellir defnyddio dŵr llwyd heb ei drin i ddyfrio'r ardd os yw'n cael ei ddefnyddio'n syth ar ôl ei gynhyrchu, ond ni ddylid ei ddefnyddio ar gnydau bwytadwy. Nid yw dŵr gwastraff o sinciau cegin a golchwyr llestri'n cael ei gasglu fel arfer gan ei fod yn rhy lygredig.

Cywain dŵr glaw

Os yw'n cael ei gasglu a'i storio'n gywir, gellir defnyddio dŵr glaw ar gyfer toiledau, peiriannau golchi a dyfrio'r ardd heb driniaeth bellach. Yn ymarferol, mae arwynebedd y rhan fwyaf o doeau domestig yn rhy fach i fodloni'r holl alw potensial hwn waeth beth fo maint y seston storio, felly mae'n bwysig gwerthuso'r arbedion posib cyn buddsoddi mewn gosodiad drud.

Casgen ddŵr yn yr ardd yw'r modd symlaf o gasglu dŵr glaw. Nid oes arno angen unrhyw driniaeth na chefnogaeth prif gyflenwad, ac nid yw'n gorfod cyflenwi dŵr pan fo'r tymheredd islaw'r pwynt rhewi. Mae systemau dŵr glaw cartref, fodd bynnag, llawer mwy soffistigedig ac mae eu gosod yn broses weddol gymhleth.

Mae Tabl 1 yn rhoi syniad o'r cyfanswm dŵr y gall systemau gynhyrchu gyda gwahanol arwynebedd to a chyfeintiau glawio. Tybir fod 60 y cant o'r glaw sy'n disgyn ar y to yn cael ei gasglu neu ei ddefnyddio. Mae hyn oherwydd efallai bod amseroedd pan fo'r tanc yn gorlifo a ddim yn gallu casglu dŵr glaw ychwanegol neu nad oes digon o alw i ddefnyddio'r holl ddŵr sy'n cael ei gasglu.

Table 1:

Amcangyfrif cynnyrch blynyddol dŵr glaw mewn metrau ciwbig fesul blwyddyn ar gyfer amrediad o feintiau to gyda glawiad amrywiol.
 

Cynllun gofod y to m2

mm glaw/ blwyddyn

50

75

100

125

150

500

15 

22.5

30

37.5

45

1000

30

45

60

75

90

1500

45

67.5

90

112.5

135

2000

60

90

120

150

180

Mae Tabl 2 yn rhoi crynodeb o wahanol ffactorau draenio ar gyfer gwahanol fathau o do. Mae ffactor o 1 yn dangos y bydd yr holl ddŵr sy'n disgyn ar y to yn cyrraedd y gwter, a ffactor o 0.5 yn dangos y bydd hanner glaw sy'n disgyn ar y to yn cyrraedd y gwter.

Tabl 2:

Ffactorau draeniad ar gyfer toeau o wahanol fath.
Math o do

Ffactor draeniad

Teils to goleddf

0.75 - 0.9

To gwastad teils llyfn

0.5

To gwastad gyda haen graean

0.4 - 0.5

Maint tanc

Gall glawiad fod yn achlysurol felly mae angen ei storio, ond mae'r maint tanc gorau posibl fel arfer yn llawer llai nag a dybiwch. Fel canllaw, gwnewch i faint y tanc ddal gwerth 18 diwrnod o alw, neu bump y cant o gynnyrch blynyddol, p’un bynnag sydd isaf. I gyfrifo'r maint tanc gorau bosibl, cyfrifwch yn gyntaf y cynnyrch posibl. Unwaith y byddwch yn gwybod y cynnyrch posibl, canfyddwch beth yw pump y cant o hyn.

Cyfrifo maint y tanc

Gellir defnyddio'r fformiwla isod i gyfrifo'r maint tanc gorau bosib ar gyfer system gywain dŵr glaw

Arwynebedd to (m2) x ffactor draeniad x effeithlonrwydd hidlo x glawiad blynyddol (mm) x 0.05

Enghraifft: Ystyriwch eiddo gydag arwynebedd to o 100 m2. Mae'n do teils, ar ongl, felly mae ffactor draeniad o 0.9 yn cael ei ddefnyddio (gweler tabl 2). Tybir bod yr effeithlonrwydd hidlo yn 90 y cant, felly mae ffactor effeithlonrwydd hidlo o 0.9 yn cael ei ddefnyddio. Tybir bod glawiad blynyddol yn 905 mm y flwyddyn, sef y data cyfartalog cyfnod hir 1961 i 1990 gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Lloegr a Chymru (mewn enghraifft wirioneddol, rhaid defnyddio glawiad lleol, gan fod glawiad yn amrywio yn sylweddol ar draws Lloegr a Chymru3).

Crynodeb o'r paramedrau ar gyfer cyfrifo cynnyrch

Arwynebedd casglu effeithiol (m2)
Ffactor draeniad
Ffactor effeithlonrwydd hidlo
Glawiad cyfartalog (mm/bl)
Pump y cant o'r cynnyrch blynyddol

100
0.9
0.9
905
0.05

Maint tanc =100 x 0.9 x 0.9 x 905 x 0.05 = 3665 litrau neu 3665/1000 = 3.7 metr ciwbig (m3)
Gan ddefnyddio'r paramedrau hyn y maint tanc gorau bosib yw 3665 litr neu 3.7 metr ciwbig.

Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Gosodiadau Dŵr) 1999:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw reoliadau yn y DU sy'n ymwneud ag ansawdd y dŵr sydd ei angen ar gyfer toiledau a pheiriannau golchi. Mae astudiaethau helaeth yn yr Almaen wedi dod i'r casgliad, os yw dŵr glaw yn cael ei gasglu'n gywir, yna gellid ei ddefnyddio mewn toiledau a pheiriannau golchi heb ei ddiheintio. Rhaid i’r gefnogaeth o'r prif gyflenwad dŵr fod yn unol â'r Rheoliadau Dŵr, sy'n golygu defnyddio bwlch aer AA neu AB, a dylid dynodi pibellau'n glir.

Mae rhai systemau masnachol wedi cynnwys diheintiad UV i ymdrin â’r risgiau iechyd canfyddedig, ond mae hyn yn defnyddio llawer o ynni sy'n gallu mynd yn groes i beth o'r budd o arbed dŵr. Yn ogystal â'r effaith amgylcheddol o driniaeth UV, mae hefyd yn ddrud i'w redeg a'i gynnal.

Gwybodaeth bellach:

1 Crettaz, P.Jolliet, O.Cuanillon, J-M and Orlando, S, 1999. Life Cycle of assessment of drinking water and rain water for toilet flushing. Aqua 48(3), pp.73-83.  
2 Astudiaeth o Ailgylchu Dŵr Llwyd Domestig, Asiantaeth yr Amgylchedd 2000
3 http://www.metof.ce.gov.uk/climate/uk/averages/19611990/areal/england_&_wales.html
        
Canllaw yn unig yw’r wybodaeth hon. Ni ddylid ei thrin fel datganiad llawn ac awdurdodol ar y mesurau i’w mabwysiadu a’u canlyniadau. Cynghorir chi i wneud eich archwiliadau eich hun cyn penderfynu ar unrhyw weithredu penodol. Nid yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn cymeradwyo defnydd, pryniant nac/neu berfformiad y nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan y cwmnïau y cyfeirir atynt uchod.