Tapiau

Gall tapiau chwistrellu ar fasn llaw fel arfer arbed hyd at 80 y cant o’r dŵr a’r ynni a ddefnyddir ar gyfer golchi dwylo.

Crynodeb

Mae oddeutu 20 y cant o ddŵr domestig yn llifo trwy dapiau sinc a basn. Mae llawer iawn o’r dŵr hwn (poeth fel rheol) yn mynd lawr y plwg heb gyflawni unrhyw ddiben gwerthfawr. Gyda rhediadau pibellau hir, heb eu hinsiwleiddio, mae llawer o ddŵr claear yn medru cael ei wastraffu tra’n disgwyl i’r tap droi’n boeth (neu’n oer).

Gall tapiau chwistrellu arbed oddeutu 80 y cant o’r dŵr a’r ynni a ddefnyddir ar gyfer golchi dwylo ond gallant rwystro’r llif yn ormodol i alluogi llenwi basn yn gyflym. Dyfais dda sy’n ceisio ymdrin â’r broblem hon yw mewnosodiad Tapmagic, y gellir ei ffitio i’r rhan fwyaf o dapiau gyda thwll allfa gron neu edau fetrig safonol. Ar lif isel, mae’r ddyfais yn rhoi patrwm chwistrellu sy’n addas ar gyfer golchi dwylo neu rinsio brws dannedd. Fel bo’r llif yn cynyddu, mae’r ddyfais yn agor i lif llawn er mwyn llenwi’r basn.

Dyfais arloesol arall yw cetrisen arbed dŵr ar gyfer tapiau cymysgu lifer unigol. Fel y codir y lifer, teimlir gwrthiant. Os oes angen llif uwch, gellir gwthio’r lifer tu draw i’r cam hwn. Mae rhai dyluniadau’n gwneud yn siŵr mai dim ond dŵr oer ddaw allan pan fo’r lifer yn y safle canol.
Pan fo dŵr yn cael ei gyflenwi ar bwysedd prif gyflenwad, gall awyrydd neu ddyfais llif laminaidd ddileu sblasio. Gall y dyfeisiadau hyn gynnwys rheolyddion llif a rhoi’r argraff fod mwy o ddŵr yn llifo nag sydd mewn gwirionedd. Mae’r graddfeydd llif sydd ar gael ar gyfer tapiau basn yn cynnwys wyth, chwech, a phum litr y funud. Maent i gyd yn rhoi digon o lif ar gyfer defnydd uniongyrchol neu lenwi basn bach.

Ystyriaethau eraill

  • Mewn ardaloedd dŵr-caled, efallai y bydd angen digennu’n rheolaidd i sicrhau nad ydynt yn blocio;
  • Er mwyn osgoi oedi hir tra bo’r dŵr yn rhedeg yn boeth, dylai’r pibellau i’r tapiau chwistrellu fod yn agos at ffynhonnell y dŵr poeth neu ddolen bwmpio;
  • Oherwydd y raddfa lif isel, gellir defnyddio pibellau gyda thyllfedd is, gan leihau’r dead-leg ymhellach.

Ystafelloedd Ymolchi Masnachol

Mae oddeutu traean o’r dŵr a ddefnyddir ym mhob swyddfa yn dod trwy dap. Mae gosod tapiau gyda chwistrell sy’n rheoli llif ansawdd uchel yn medru lleihau’r swm yma o hyd at 80 y cant. Gellir yn hawdd ffitio tapiau gydag edau allfa safonol M22 neu M24 gyda chwistrellau ac addasu allfeydd crwn. Wrth osod tapiau newydd, nodwch y modelau gydag allfeydd metrig, gan fod hyn yn caniatáu’r hyblygrwydd o ychwanegu amrediad o ddyfeisiadau allfa megis chwistrellau ac awyryddion.

Mae tapiau synhwyrydd a rhai sy’n amseru i droi i ffwrdd yn rhwystro gwastraff a llifogydd mewn mannau lle gellir gadael tapiau’n rhedeg. Maent hefyd yn cynnig gwell hylendid, gan nad oes angen cyffwrdd y tap ar ôl golchi’r dwylo. I sicrhau y ceir arbedion a bod y defnyddiwr yn fodlon, rhaid i’r gosodiad weddu i’r pwysedd dŵr a chaniatáu ar gyfer ei addasu’n gywir. 

Clefyd y lleng filwyr

Mynegwyd pryder y gallai gosodiadau chwistrellu ac awyryddion gyflwyno risg o glefyd y lleng filwyr trwy greu aerosol y gellid ei fewnanadlu. Yn ymarferol, mae gosodiadau chwistrellu sydd wedi eu dylunio a’u rheoli’n dda yn rhoi llif mwyn heb fawr o sblasio o gwbl. Mae gosodiadau llif laminaidd yn ddull amgen y gellir eu defnyddio yn lle awyryddion ar gyfer llefydd risg uchel fel cartrefi gofal.

Mae tymheredd y dŵr yn ffactor pwysig mewn digwyddiadau o glefyd y lleng filwyr. Mae dŵr sy’n ddigon poeth yn lladd clefyd y lleng filwyr. Hefyd, mae digennu a rheoli’r llif o ddŵr i dapiau yn lleihau’r nifer o ddiferion aerosol a gynhyrchir, sef y modd mae clefyd y lleng filwyr fel arfer yn mynd i mewn i’r corff.

Mae dŵr sy’n eistedd mewn pibellau cynnes am gyfnodau hir hefyd yn bryder a allai waethygu gyda llif is.  Fodd bynnag, mae dylunio dŵr ac ynni da a chost effeithiol yn anelu at leihau’r dead legs a dylid ystyried yr achosion hyn ar sail unigol.  

Mae’r Gymdeithas Ymchwil a Gwybodaeth Gwasanaethau Adeiladu (BSRIA) wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer tymheredd yn achos digwyddiadau o glefyd y lleng filwyr. Ar gyfer offer defnydd-isel, nid yw chwistrellwyr yn cael eu hargymell, ac arbedion isel iawn a fyddent yn eu cynnig.

Canllaw yn unig yw’r wybodaeth hon. Ni ddylid ei thrin fel datganiad llawn ac awdurdodol ar y mesurau i’w mabwysiadu a’u canlyniadau. Cynghorir chi i wneud eich archwiliadau eich hun cyn penderfynu ar unrhyw weithredu penodol. Nid yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn cymeradwyo defnydd, pryniant nac/neu berfformiad y nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan y cwmnïau y cyfeirir atynt uchod.