Arbed dŵr yn yr ardd

Darllenwch brif argymhellion Alan Titchmarsh. Gallai hyd yn oed wella iechyd eich planhigion ac arbed arian i chi.

"Yn y DU mae'n bosib cael gardd brydferth a chynhyrchiol gan ddefnyddio ychydig iawn o ddŵr o'r prif gyflenwad." Alan Titchmarsh.

Ac os yw Alan yn dweud hyn, mae'n rhaid ei fod yn wir. Rydym wedi bod yn gweithio gydag Alan i ffurfio argymhellion arbed dŵr ar gyfer yr ardd sy'n gallu arbed amser ac arian i chi, a hyd yn oed gwella eich gardd ar yr un pryd.

  • Dyfriwch eich gardd pan fydd yn oer yn gynnar yn y bore neu gyda'r nos. Bydd hyn yn gostwng y cyfanswm o ddŵr sy'n cael ei golli drwy anweddiad.
  • Os ydych yn dyfrio planhigion a phrysglwyni yn rhy aml bydd eu gwreiddiau yn parhau'n fas, gan wanhau'r planhigyn. Gadewch iddynt hyd nes y byddant yn dangos arwyddion o wywo.
  • Casglwch ddŵr glaw mewn casgenni dŵr a defnyddiwch dun dŵr yn hytrach na phibell ddŵr rwber. Os yw'n well gennych ddefnyddio pibell ddŵr rwber, gosodwch chwistrell clicied i reoli'r llif.
  • Chwynnwch a hofiwch eich gardd yn rheolaidd, i sicrhau bod dyfrio yn helpu'r planhigion ac nid chwyn.
  • Plannwch flodau a phrysglwyni sy'n ffynnu mewn gwres a sychder megis teim, melyn yr hwyr peraroglus, rhosyn y graig, pabi Califfornia, penigan, lafant, buddleia a hebes.
  • Mae gorchudd megis sglodion pren, rhusgl a graean yn helpu i atal anweddiad dŵr a hefyd yn arafu twf chwyn, yn arbed dŵr ac amser yn chwynnu.
  • Gall lawntiau oroesi cyfnodau hir o dywydd sych os nad yw'r gwair yn cael ei dorri'n rhy fyr. Hyd yn oed os yw'r gwair yn troi'n frown, bydd yn adfer ei hun yn sydyn ar ôl ychydig ddyddiau o law.
  • Gall taenellwyr gardd ddefnyddio gymaint o ddŵr mewn awr ag y mae teulu o bedwar yn ei ddefnyddio mewn diwrnod. Os ydych yn defnyddio taenellwr, mae llawer o gwmnïau dŵr yn gofyn i chi osod mesurydd dŵr.

Canfyddwch sut i arbed mwy o ddŵr adref, yn yr ardd ac yn y gwaith