Cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd am ddim

Ni allwn bob amser atal y môr na'r afonydd rhag gorlifo, ond gallwn ddweud wrthych pryd y bydd hynny’n digwydd. Mae tua 70 y cant o'r rhai sy'n gallu cofrestru ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol dal heb wneud hynny. Ewch ati i gofrestru nawr.

Rhybuddion llifogydd llawn

Mae Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu rhybuddion am lifogydd i chi’n uniongyrchol dros y ffôn, ffôn symudol, e-bost, negeseuon testun SMS a ffacs.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol drwy ffonio’r Llinell Llifogydd ar  0845 988 1188 neu Typetalk 0845 602 6340.    Gallwch gael cyngor syml gan y Llinell Llifogydd hefyd ar beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd.

Rhybuddion llifogydd awtomatig

O 15 Chwefror 2010, os ydych yn byw mewn ardal sydd dan risg llifogydd o afonydd neu’r môr, ac nid ydych ar hyn o bryd wedi cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhad ac am ddim Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol, efallai y cewch lythyr yn eich hysbysu y gallech gael rhybudd llifogydd gennym ni pan fydd llifogydd yn digwydd.