Diogelwch wrth lociau

Cyngor ar gyfer cychwyr ynghylch sut i fynd yn ddiogel trwy lociau.

  • Mewn lociau cul, cofiwch fod rhai cychod yn tynnu cymaint â 1.2 medr (4 troedfedd) neu fwy ac mae’n bosibl na fedrant symud neu droi’n gyflym.
  • Wrth aros am loc, ffurfiwch giw yn yr angorfeydd encilfa mor agos i’r loc ag y bo modd. Mae neidio’r ciw yn anghwrtais, yn creu teimladau drwg a gall achosi dryswch ac oediadau wrth fynd i mewn i’r loc.
  • Unwaith fod y loc yn llawn, dylai unrhyw gychod sydd ar ôl symud ymlaen ar hyd yr encilfa er mwyn sicrhau y gall y rheiny sy’n aros yn y sianel (efallai mewn amgylchiadau anodd) angori ar ddiwedd y ciw.
  • Ufuddhewch i gyfarwyddiadau ceidwad y loc. Am resymau diogelwch ac effeithiolrwydd ni fyddant, o reidrwydd, yn dweud wrth gychod am fynd i mewn i’r loc yn y drefn fanwl y cyraeddasant y fan.
  • Diffoddwch eich injan unwaith fod eich cwch wedi’i angori tu mewn i’r loc. Diffoddwch radios a cherddoriaeth a sŵn arall.
    Clymwch eich rhaffau blaen ac ôl o amgylch y bolardiau. Pan fod dŵr yn codi neu’n disgyn yn y loc, trefnwch eich rhaffau er mwyn eu cadw’n weddol dynn.
  • Sicrhewch nad yw eich cwch yn cael ei fachu ar raff wrth i’r loc wagio.
  • Sicrhewch fod eich cwch bob amser yn dod i safiad stond llwyr trwy ddefnyddio’r gêr ôl , ac nid y rhaffau.
  • Torchwch raffau’n barod i’w defnyddio. Mae rhaffau clymog yn achosi problemau yn arbennig os oes eu hangen ar frys.
  • Defnyddiwch raffau angori blaen ac ôl. 
  • Peidiwch fyth â rhwymo rhaff o amgylch unrhyw ran o’ch corff a chadwch eich dwylo a’ch bysedd i ffwrdd o folardiau neu gletiau.
  • Peidiwch â throi heibio gyda dwylo, traed na pholyn cwch.
  • Peidiwch ag agor tanciau tanwydd na thanio matsis.
  • Peidiwch ag angori i fyny’r afon o’r llinell wen fertigol ar wal y loc neu gall eich cwch gael ei ddifrodi.
  • Gochelwch rhag bolardiau, grisiau a pheryglon baglu eraill.
  • Peidiwch â rhedeg ar lan y loc na chaniatáu i eraill redeg.
  • Cadwch blant dan oruchwyliaeth agos.
  • Cymerwch eich amser a rhoi sylw gofalus wrth fynd drwy’r loc.
  • Cadwch gŵn ar eich cwch, neu ar dennyn wrth fynd drwy’r loc.