Cynlluniau dyfrffordd

Mae ein Cynlluniau Dyfrffordd yn diffinio sut rydym yn gwella ein hafonydd er mwyn eu gwneud yn lleoedd gwell ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Cynllun dyfrffordd Anglia

Pum cynllun er mwyn datblygu, cynnal a gwella Great Ouse, Ancholme, Stour, Nene, Welland a Glen.

Cynllun Dyfrffordd Medway

Ein cynllun ar gyfer datblygu cynaliadwy ar Medway rhwng Allington a Tonbridge yng Nghaint.

Cynllun dyfrffordd Tafwys

Cynllun er mwyn datblygu a gofalu am Dafwys trwy bartneriaeth a elwir yn Gynghrair Tafwys.

Cynllun Dyfrffordd Gwy

Ein cynllun er mwyn gwarchod bioamrywiaeth unigryw Gwy, rheoli mordwyaeth a datblygu mwy o gyfleoedd hamdden.

Ni yw’r awdurdod mordwyo sy’n gyfrifol am Wy a Lugg. Gyda chymorth Pwyllgor Ymgynghorol Mordwyaeth Gwy rydym wedi cynhyrchu Cynllun Dyfrffordd Gwy. Mae ganddo dri phrif nod, sef:

  • gwarchod statws cadwraeth unigryw’r afonydd
  • hyrwyddo a datblygu gweithgareddau hamdden ar Wy a Lugg
  • rheoli’r afonydd mewn dull integredig a chytbwys