Cyflwynwyd llysiau'r dial i Brydain yn y 19eg ganrif fel planhigyn addurnol. Dros amser, mae wedi ymledu’n eang mewn ystod o gynefinoedd, gan gynnwys ymylon ffyrdd, glannau afonydd ac adeiladau adfeiliedig.
Mae’n drech na phlanhigion ac anifeiliaid brodorol.

- lliw gwyrdd toreithiog
- dail ar ffurf rhaw
- mae’r coesyn yn edrych fel bambŵ
- mae’n cynhyrchu blodau gwynion yn ystod Medi neu Hydref
- gall dyfu cymaint â 10cm y diwrnod
Mae’n ymledu trwy ei goron, rhisom (coesyn dan y ddaear) a darnau o’r coesyn, yn hytrach na’i hadau. Gall y chwyn dyfu metr mewn mis a gwneud i'r ddaear symud dan goncrid a
tharmac, gan dyfu trwy'r craciau a difrodi adeiladau a ffyrdd. Dangosodd astudiaethau y gall darn 1cm o risom gynhyrchu planhigyn newydd mewn 10 niwrnod. Gall darnau o risom aros ynghwsg yn y pridd am ugain mlynedd cyn cynhyrchu planhigion newydd.
- Os oes gennych chi Lysiau’r dial ar eich tir gallwch fod yn achosi niwsans preifat i eiddo o’ch amgylch. Gan ddefnyddio ein cyfarwyddyd dylech reoli’r Llysiau’r dial er mwyn eu hatal rhag ymledu ymhellach.
- Os yw Llysiau’r dial ar eiddo cyfagos yn achosi niwsans i chi, byddem bob amser yn argymell eich bod yn cydweithredu gyda pherchennog y tir a cheisio rheoli’r broblem mewn modd cyfeillgar, yn hytrach na mynd i gyfraith yn ei gylch.
Mae hwn yn fater a gwmpasir gan y Gyfraith Gyffredin ac nid oes gan Asiantaeth yr Amgylchedd unrhyw rymoedd yn y sefyllfa hon.
Dywed Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ei bod yn drosedd i 'blannu neu achosi i dyfu’n wyllt mewn rhyw ddull arall' unrhyw blanhigyn a restrir yn Atodlen naw Rhan II y Ddeddf. Mae’r atodlen yn rhestru dros 30 o blanhigion gan gynnwys llysiau’r dial, yr efwr enfawr a’r ddeilen parot.
Cyfrifoldeb perchnogion tir yw rheoli’r planhigion hyn, ond nid oes rhaid iddynt eu dadwreiddio. Fodd bynnag, byddai achosi i’r planhigion hyn ymledu trwy eu dadwreiddio neu eu gwaredu’n anghywir yn anghyfreithlon.
Yr heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i unrhyw droseddau ac mae gan bob gwasanaeth heddlu swyddog cyswllt bywyd gwyllt y gellir cysylltu â nhw. Os nad all yr heddlu weithredu, mae’n bosibl bydd yn rhaid dwyn achos sifil yn erbyn rhywun er mwyn sicrhau y rheolir y planhigion ymledol ar eu tir.
Mae Cyngor Cernyw wedi cynhyrchu canllaw sy’n egluro pwy sy’n gyfrifol am orfodaeth gyfreithiol dros blanhigion ymledol. Gallwch lawrlwytho’r ganllaw o’u gwefan.
Os ydych yn dymuno tynnu’r Llysiau’r dial cyn defnyddir yr ardal ar gyfer ei datblygu, dylech ddilyn y cyngor a ddarparwn yn y cod arfer llysiau’r dial yn ofalus iawn, neu gyflogi contractwr i wneud hyn ar eich rhan.
Os ydych yn defnyddio contractwr i gludo’r gwastraff ymaith ar eich rhan, rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gyda ni fel cludwr gwastraff.
Er mwyn canfod contractwr i gael gwared ar Lysiau’r dial, a phlanhigion ymledol eraill, chwiliwch yn y Cyfarwyddiadur Gwastraff:
Os nad oes angen i chi dynnu’r llysiau’r dial ar frys, dylai cyfuniad o driniaeth â llyswenwyn a chloddio gofalus gael gwared ar y broblem ym mhen hir a hwyr.
Rheolaeth gemegol
Mae Llysiau’r dial yn sensitif i ystod o lyswenwynau. Yr amser mwyaf effeithiol er mwyn taenu llyswenwynau ar Lysiau’r dial yw tua diwedd yr Haf. Mae hyn yn llawer mwy niweidiol i’r rhisom dan y ddaear na thaenu llyswenwynau yn y Gwanwyn.
Dylai rhywun cymwys gyflawni’r driniaeth a rhaid bod gan gontractwyr ardystiad y Cyngor Profion Hyfedredd Cenedlaethol (NPTC). Mae angen ein caniatâd ni cyn gellir defnyddio llyswenwynau ar neu ger cyrsiau dŵr. Mae gwybodaeth ynghylch caffael ein caniatâd ar ein tudalen rhywogaethau ymledol
Mae’n bosibl bydd yn rhaid trin â llyswenwyn am o leiaf dair blynedd cyn i’r Llysiau’r dial roi’r gorau i aildyfu. Hyd yn oed pan fo’r planhigyn yn rhoi’r gorau i aildyfu, mae unrhyw bridd a dynnwyd o’r ardal yn debygol o fod â rhisom cwsg ynddo a rhaid iddo gael ei waredu fel y disgrifir o fewn y cod arfer llysiau’r dial.
Dangosodd treialon ar safleoedd fod cyfuno cloddio a thriniaeth â llyswenwyn yn fwy effeithiol na dim ond taenu llyswenwynau dros y planhigyn. Mae hyn oherwydd bod y cloddio’n torri’r rhisom yn ddarnau, sy’n ei ysgogi i gynhyrchu dail, gan wneud y planhigyn yn fwy agored i’w niweidio gan driniaeth â llyswenwyn.
Rheolaeth ffisegol
Gellir defnyddio torri er mwyn lleihau’r biomas dan y ddaear. Trin coesynnau ar eu llawn dwf ar ddiwedd yr haf sy'n darparu'r rheolaeth fwyaf effeithiol gyda llyswenwyn. Os oes nad oes modd trin y coesynnau aeddfed ( e.e. oherwydd bod y chwistrelliad yn drifftio) gellir torri'r coesynnau yn y gwanwyn a thrin yr aildyfiant ar ddiwedd yr haf. Mae hyn yn lleihau ucher y coesynnau. Dylid torri’r planhigyn wrth fôn y coesyn. Dylid osgoi dulliau o dorri sy’n cynhyrchu tameidiau, fel ffustio, oherwydd gall dim ond mymryn o’r coesyn gynhyrchu planhigyn newydd.
Dangosodd astudiaethau os torrir y planhigyn bedair gwaith y flwyddyn, ei fod yn colli egni a biomas dan y ddaear. Dylid gwneud y toriad cyntaf pan fod yr egin cyntaf yn ymddangos a’r toriad olaf cyn i’r planhigyn wywo yn yr hydref (Medi neu Hydref). Bydd angen torri bob blwyddyn. Dylai coesynnau a dorrwyd gael eu sychu’n drylwyr cyn eu llosgi neu eu cludo i safle tirlenwi.
Pryd bynnag y cludir Llysiau’r dial o safle rhaid rhoi rhagofalon ar wait her mwyn sicrhau nad yw’n ymledu i fannau eraill. Bydd angen ei waredu’n gywir yn ogystal.
-
Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol er mwyn gweld p’un ai ydynt yn cynnig gwasanaeth casglu neu b’un ai oes ganddynt restr o safleoedd sy’n gallu derbyn gwastraff Llysiau’r dial.
Mae manylion cysylltu awdurdodau lleol ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael ar wefan DirectGov. Gallwch chwilio fesul cod post, stryd, tref neu awdurdod lleol.
Mae’n bosibl gallwch ganfod safle yn eich ardal chi sy’n derbyn gwastraff Llysiau’r dial trwy ddefnyddio’r Cyfarwyddiadur Gwastraff er mwyn chwilio am safleoedd sy’n derbyn ‘Chwyn ymledol (ee Efwr enfawr)’
Neu gallwch edrych yn y Yellow Pages neu’r llyfr ffôn lleol er mwyn gweld p’un ai oes safleoedd rheoli gwastraff neu gludwr gwastraff yn eich ardal chi a all ei gymryd. Bydd angen i chi wirio eu bod wedi’u hawdurdodi i gymryd y gwastraff.
Llosgi dan reolaeth
Gellir llosgi gwastraff Llysiau’r dial ar y safle mewn dull wedi’i reoli. Os llosgir y gwastraff, rhaid i unrhyw waith llosgi o’r fath roi ystyriaeth i unrhyw is-ddeddfau lleol ar gyfer niwsans neu lygredd a all ddigwydd o ganlyniad i’r gweithgarwch. Dylai unrhyw un sy’n gweithio ar y safle ddefnyddio dillad gwarchodol a misyrnau wyneb.
Dylai busnesau sy’n bwriadu llosgi Llysiau’r dial roi gwybod i ni cyn gwneud unrhyw waith llosgi trwy alw 03708 506 506.
Mae manylion cysylltu awdurdodau lleol ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael ar wefan DirectGov. Gallwch chwilio fesul cod post, stryd, tref neu awdurdod lleol.
Gall unrhyw fusnesau sy’n llosgi Llysiau’r dial fod angen eithriad D7 ar gyfer llosgi gwastraff yn yr awyr agored.
-
Nid oes angen i unigolion preifat sy’n bwriadu llosgi Llysiau’r dial roi gwybod i ni ond dylent hysbysu’r awdurdod lleol fel mater o arfer da.
Claddu
Gellir claddu pridd sy’n cynnwys deunydd Llysiau’r dial a gweddillion Llysiau’r dial wedi’u llosgi ar y safle ble cynhyrchwyd ef. Dylid gorchuddio’r deunydd gan bilen rhwystro gwreiddiau ac yna’i gladdu ar ddyfnder o 5 medr o leiaf gyda deunydd llenwi anweithiol neu uwchbridd drosto.
Dylai unrhyw un sy’n claddu gwastraff Llysiau’r dial roi gwybod i ni o leiaf wythnos cyn gwneud y gwaith claddu trwy alw 03708 506 506.
-
Mae cyngor pellach ynghylch rheoli Llysiau’r dial yn eich gardd ar gael oddi wrth wefan Fforwm Llysiau’r Dial Cernyw.
-