Mapiau erydu arfordirol

Sut mae deall ein gwybodaeth am erydu arfordirol a rheoli’r draethlin.

Bwriedir yr wybodaeth am erydiad a ddangosir ar y wefan hon fel cyfarwyddyd, ac ni all ddarparu manylion ar gyfer eiddo unigol.

Parth erydiad

Y ‘parth erydiad’ yw’r ardal o dir y rhagfynegir ei fod mewn perygl o erydiad yr arfordir dros gyfnod o amser a ddiffiniwyd - nid yr ardal a gollir yn bendant. Dangosir maint daroganedig y parth hwn o dan ‘erydiad a ragfynegir’ yn y tabl canlyniadau.

Ble gwyddom fod erydiad yr arfordir yn digwydd, gallwn wneud rhagfynegiadau wedi’u seilio ar dystiolaeth hanesyddol gwaith monitro cyfredol a data arall er mwyn amcangyfrif ble fydd safle’r draethlin ar ryw adeg benodol.

Yn fynych, mae’r gyfradd flynyddol o erydiad ar bwynt ar hyd y draethlin yn amhosibl i’w darogan; ceir erydiad yn aml ar ffurf digwyddiadau sengl mewn mannau penodol yn hytrach nag mewn dull cyson, unffurf.

Yn lle dangos cyfraddau erydiad, mae’r wefan hon yn darparu’r parth erydiad a ddisgwyliwn dros dair graddfa amser  - o 2010 (pryd datblygwyd y data hwn) hyd at oddeutu 2030, hyd at oddeutu 2060 a hyd at oddeutu 2100. Dangosir hyn fel ystod (e.e. ‘0.5 - 3.2 medr’) sy’n cynrychioli’r terfynau uchaf ac isaf o’r erydiad y dylem ddisgwyl yn rhesymol hyd y dyddiad hwnnw. Mae rhagfynegi erydiad yr arfordir yn wyddor ansicr, a byddai darparu union safle’r draethlin yn y dyfodol yn rhoi argraff gamarweiniol o fanwl gywirdeb a sicrwydd.

Mae dogfennau cynllunio’r arfordir, fel Cynlluniau Rheoli Traethlin, hefyd yn dangos y parth erydiad tu hwnt i 2025, gan gynnwys rhagfynegiadau hyd at oddeutu 2055 a hyd at ddechrau’r ganrif nesaf. Mae angen rhagfynegiadau hirdymor ar gyfer cynllunio polisïau rheoli’r arfordir ymlaen i’r dyfodol, sy’n gofyn am dystiolaeth y gellir seilio penderfyniadau cynllunio arni. 

Polisïau Cynllun Rheoli Traethlin

Mae’r llinellau lliw sy’n dilyn y draethlin yn cyfeirio at y polisi rheoli a gytunwyd ar gyfer yr ardal honno o fewn y Cynllun Rheoli Traethlin (SMP).

Mae’r cynlluniau hyn, a gyhoeddwyd yn 2010-11, yn rhychwantu holl arfordir Cymru a Lloegr ac yn gosod ‘cyfeiriad y daith’ ar gyfer rheoli’r arfordir ymlaen i’r dyfodol hirdymor. Dangosir yr SMP sy’n berthnasol i’ch ardal ddewisedig chi yn y tabl canlyniadau. 

Ceir pedwar prif bolisi rheoli ar gyfer pob darn o arfordir, a gwerthuswyd y dewisiadau’n drylwyr ac ymgynghorwyd yn gyhoeddus yn eu cylch. Mewn unrhyw fan, gall y polisi a gytunwyd newid mewn gwirionedd os canfyddir ei fod yn anymarferol yn ariannol neu’n dechnegol, neu’n niweidiol i’r amgylchedd, dros amser.

Math o amddiffynfa

Fel rheol mae polisïau rheoli er mwyn dal neu symud safle cyfredol y draethlin ymlaen yn ymwneud â defnyddio amddiffynfa artiffisial, fel morglawdd neu grwyn o graig. Defnyddiwyd y Gronfa Ddata Genedlaethol Llifogydd ac Amddiffyn yr Arfordir a ddatblygwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol er mwyn dangos y mathau o amddiffynfeydd a ddefnyddir a, ble bo’r angen, ategwyd hyn gan wybodaeth a loffwyd yn lleol. 

Ble ceir polisi o ‘ddim ymyrraeth weithredol’, fel rheol nid oes unrhyw amddiffynfeydd yn eu lle. Yn yr achos hwn, gall clogwyni, twyni tywod a nodweddion eraill oedi erydiad yr arfordir ond ni fedrant, o reidrwydd, ei atal. Ble mae polisi’n newid o ‘ddal y lein’ i ‘ddim ymyrraeth weithredol’ yn ystod oes yr SMP, gall amddiffynfeydd aros yn eu lle a darparu safon o warchodaeth leihaol yn  erbyn erydiad wrth iddynt ddirywio dros amser.

Erydiad yr arfordir ac ansefydlogrwydd tir

Yn fynych, achosir i dir ar yr arfordir encilio gan erydiad o’r môr yn gweithredu law yn llaw â thirlithriadau a achosir gan ryngweithiadau rhwng dŵr daear a’r pridd neu graig. Ar y wefan hon, mae’r parth erydiad a ragfynegir yn cymryd effaith a thebygolrwydd tirlithriadau i ystyriaeth.

Ble na ddangosir unrhyw ragfynegiadau erydiad oherwydd gobeithir adeiladu neu gynnal amddiffynfeydd, (mewn geiriau eraill ble ceir polisi â’r bwriad o ddal y lein amddiffyn gyfredol)  gall peryglon ddal i fodoli o dirlithriadau sy’n digwydd tu ôl i’r amddiffynfeydd hynny. Os felly, amlygir hyn yn y Cynllun Rheoli Traethlin.