Tanciau carthion

Mae’r gofyn i gofrestru gollyngiadau bach domestig o garthion a chyfarpar trin carthion mewn pecyn wedi newid yn Lloegr.

Roedd y gofyn i gofrestru yn un o ganlyniadau rheoliadau a wnaethpwyd yn 2010 gan yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru, fel rhan o weithrediad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd. Ystyriwyd mai cofrestru byddai’n darparu’r dull lleiaf trafferthus o fynd ati er mwyn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol.

Fodd bynnag, rydym yn cynnal arolwg ar y cyd yn awr gyda’r Llywodraeth ar y gofyn i gofrestru gollyngiadau bach domestig o garthion yn Lloegr. Ceir ymgynghoriad gan Defra ynghylch y dewisiadau, y cyhoeddir manylion yn ei gylch yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Byddwn yn cynnwys dolen gyswllt ar y dudalen hon pan fod yr r ymgynghoriad yn cychwyn.

Tra bod yr arolwg ar waith, ni fyddwn yn mynnu fod  gollyngiadau bach domestig o garthion yn cael eu cofrestru, gan gynnwys tanciau carthion, yn Lloegr - er y gall perchentywyr barhau i gofrestru os dymunant wneud hynny. Os ydych chi’n dal i ddymuno cofrestru gollyngiad bach domestig o garthion, mae croeso i chi ymweld â’r dudalen hon:

Our regulatory position statements explain how we will regulate small sewage discharges during the review:

Gallwch ddarllen mwy ynghylch y gofynion yng Nghymru a sut i gofrestru ar y dudalen we hon:

 

Customers in Wales

On 1 April 2013 Natural Resources Wales (NRW) will take over the responsibilities of the Environment Agency in Wales.

To support NRW we will continue to provide this online service until it can be moved to their website.

Please contact NRW with any queries or feedback about this service.