Sut rydym wedi amddiffyn ein harfordir yn y gorffennol?

Mae pobl wedi bod yn amddiffyn yr arfordir ers cenedlaethau.  Mae rhai amddiffynfeydd morol, mewn harbwrs yn ardal Môr y Canoldir er enghraifft, yn dyddio'n ôl dros 2,000 o flynyddoedd.  Yn y gorffennol, byddai pobl a oedd yn byw ar lan y môr wedi gorfod newid eu bywydau a'u bywoliaethau wrth i'r draethlin symud.

Amddiffynfeydd morol cynnar

Y Rhufeiniaid oedd y bobl gyntaf i ddefnyddio technegau megis grwynau, carthu a morgloddiau.  Yn Lloegr, gellir olrhain y defnydd o forwaliau i'r chweched ganrif.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhaid gadael llawer o aneddiadau arfordirol ar ôl i harbwrs lenwi â llaid neu ar ôl iddynt fynd o dan ddŵr y môr yn ystod stormydd.

Golygai datblygiadau mewn peirianneg yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg y gellid 'hawlio' ardaloedd mawr o dir oddi ar y môr drwy ddraenio a'r defnydd o forwaliau, megis yn Romney Marsh yn swydd Gaint.

Cadw'r môr draw

Yn ystod oes Fictoria gwnaeth datblygiadau ym maes peirianneg a gwybodaeth hi'n bosibl i ni adeiladu amddiffynfeydd arfordirol mawr.  Roeddent yn aml yn cael eu codi heb fawr ddim ystyriaeth - na dealltwriaeth - o'r ffordd y gallent effeithio ar yr ardal o'u hamgylch na'r amgylchedd arfordirol.  Erbyn y 1930au, roedd llawer o amddiffynfeydd arfordirol wedi dod yn ymwthiol ac yn ddiolwg.

O'r 1940au daeth rhwystrau yn rhatach i'w hadeiladu drwy ddefnyddio concrid.  Fodd bynnag, wrth i'r môr 'sgwrio' deunydd wrth odre'r amddiffynfeydd, aeth traethau yn is ac achosodd digwyddiadau tywydd garw orlifo dros hyd yn oed y morwaliau uchaf.  Daeth eu natur fregus yn gynyddol amlwg.

Heriau newydd a dulliau gweithredu newydd

Mae technegau newydd wedi cael eu datblygu i ategu peirianneg galed a sefydlogi'r nodweddion a'r prosesau naturiol ar hyd y draethlin.  Gallai ail-lenwi traethau a mathau eraill o beirianneg feddal fod yn rhatach, ac yn llai o ddolur llygad, nag amddiffynfeydd peirianneg galed.

Ers y 1990au, mae ymwybyddiaeth gynyddol o'n heffaith ar ein hamgylchedd naturiol, a bygythiad codiad yn lefel y môr, wedi llunio'r ffordd rydym yn rheoli ein harfordir.  Mae cynllunio hirdymor strategol wedi cymryd lle cynlluniau amddiffynfeydd arfordirol darniog ac adweithiol.

Mae Cynlluniau Rheoli Traethlinau yn ystyried pob agwedd ar reoli'r arfordir ac yn rhoi cyfle i gymunedau a sefydliadau lleol gymryd rhan yn y broses gynllunio.  Mae'r cynlluniau hyn wedi'u dylunio ac wedi'u gorfodi'n ofalus i adlewyrchu blaenoriaethau arfordirol Cymru a Lloegr yn yr unfed ganrif ar hugain.