Amddiffyn bywyd gwyll a chynefinoedd arfordirol

Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu a gwella'r amgylchedd naturiol drwy ein gweithrediadau.  Ystyrir y ffordd y rheolir safleoedd gwarchod natur pwysig sydd mewn perygl o erydu arfordirol neu lifogydd mewn Cynlluniau Rheoli Cynefinoedd Arfordirol (CHaMPs).

Adleoli cynefinoedd naturiol

Gall rhai ffurfiau ar amddiffynfeydd y môr gael effaith negyddol ar amgylchedd yr arfordir. Mae 'gwasgu arfordirol' yn digwydd pan fydd cynefinoedd arfordirol fel morfeydd heli, fflatiau llaid neu draethau yn cael eu dal rhwng amddiffynfeydd y môr a lefelau’r môr yn codi. Gall hyn arwain at golli graddol ar y cynefinoedd hyn - sydd eisoes wedi bod yn digwydd ers degawdau. Gan fod y rhain yn diroedd bwydo pwysig i adar a bywyd gwyllt arall, gall gael canlyniadau amgylcheddol difrifol. Mae cynefinoedd rhwng llanw hwythau’n bwysig i bysgodfeydd masnachol lleol, am eu bod yn cynnig ardaloedd meithrin pwysig.

Lle nad oes modd osgoi colli cynefinoedd naturiol, rydym yn ceisio creu rhai newydd yn eu lle drwy 'raglenni creu cynefinoedd' rhanbarthol.

Cydweithio ag eraill

Rydym yn defnyddio cyfoeth o arbenigedd i asesu effaith amgylcheddol yn ofalus.  Rydym yn gweithio ar lefel leol a chenedlaethol gyda Natural England, asiantaeth y llywodraeth sy'n gyfrifol am hyrwyddo gwarchod bywyd gwyllt a nodweddion naturiol Lloegr.  Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r nifer fawr o sefydliadau sy'n rhan o Bartneriaeth Fioamrywiaeth y DU, sy'n chwarae rhan weithgar mewn gwaith cadwraeth.

Mae ein gwaith ni yn caniatáu i’r cynefinoedd hyn addasu, gan greu amgylchedd arfordirol cyfoethocach i bobl a natur.

Am wybodaeth am ymweld â’r arfordir a sut gallwch chi gyfrannu at amgylchedd arfordirol iach, gweler ein Tudalennau hamdden awyr agored.