Mae'n hanfodol ein bod yn deall newidiadau arfordirol mawr yn y tymor hwy ac yn gallu eu rhagweld, fel y gallwn reoli'r perygl i aneddiadau arfordirol a'r amgylchedd naturiol yn fwy effeithiol.
Er mwyn rhagweld erydu, defnyddiwn nifer o dechnegau monitro datblygedig i asesu ei achosion a'r effaith barhaus. Mae hyn yn cynnwys defnyddio ffotograffau o'r awyr, mapiau ac arolygon o brosesau arfordirol, y gall timau o wyddonwyr wedyn eu dadansoddi. Mae cofnodion o gyfraddau erydu hanesyddol ar yr arfordir hefyd yn llywio ein rhagamcanion o'r ffordd y gallai'r arfordir esblygu yn y dyfodol.
Yna gallwn ddefnyddio'r wybodaeth fanwl hon am ein harfordir i:
- lunio rhagamcanion ynglŷn â'r gyfradd erydu ac effaith erydu;
- asesu'r dulliau presennol o reoli'r arfordir a pha mor gost-effeithiol fyddant dros amser;
- gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â rheoli yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn ymdrin â materion erydu arfordirol lle ceir y perygl mwyaf.
Rydym yn defnyddio'r data diweddaraf ar newid yn yr hinsawdd, uwch-dechnegau modelu a'r wybodaeth arolygon lleol orau sydd ar gael i arddangos daroganau erydu’r arfordir ar hyd a lled Lloegr. Bydd y wybodaeth hon ar gael yn hawdd i bawb ar ein gwefan, fel gall pawb sy'n byw ar yr arfordir, yn gweithio arno ac yn ei reoli benderfynu ar y ffordd orau i ymdrin â newid arfordirol yn eu hardal leol.