Pam mae'r arfordir yn newid?

Mae newid arfordirol yn broses barhaus, naturiol sydd wedi digwydd erioed.

Wrth i ddŵr y môr daro clogwyni a thraethau, mae'n peri i waddod neu greigiau gael eu torri'n fân a'u hysgubo i'r môr.  Mewn rhai achosion, gall y deunydd hwn gael ei symud i ran wahanol o'r arfordir a'i ddyddodi ar raddfa fawr, gan achosi 'croniant'  - y gwrthwyneb i erydu, lle gall traethlinau ddatblygu neu gronni gyda gwaddod dros amser.  Mewn gwirionedd, mae tywod a cherrig mân ein traethau yn gynnyrch erydu, ac er mwyn parhau i fodoli mae angen iddynt gael cyflenwad parhaus o ddeunydd.

Gall erydu ddigwydd o dan unrhyw amgylchiadau, ond mae ei gyfradd yn tueddu i gyflymu pan fydd tonnau'n bwerus a phan fydd lefelau dŵr yn uchel - er enghraifft yn ystod stormydd neu wyntoedd cryfion.

Sut mae tonnau yn achosi erydu

Mae tonnau yn achosi erydu mewn pedair prif ffordd:

  • Mae tonnau yn dod â gronynnau o greigiau a thywod sy'n malu'r clogwyn yn raddol.
  • Mae grym parhaol y dŵr yn erbyn y traeth yn ei dreulio.
  • Mae tonnau pwerus yn peri i greigiau â cherrig mân o'r traeth fwrw yn erbyn ei gilydd a thorri'n ddarnau.
  • Mae asidau yn y môr hefyd yn toddi mathau penodol o greigiau'n araf.

Sut mae erydu yn effeithio ar ein harfordir

Mae'r ffordd y mae erydu yn newid gwahanol rannau o'n harfordir yn dibynnu i raddau helaeth ar y math o graig  - mewn geiriau eraill, ei ddaeareg.

Mae arfordiroedd lle ceir creigiau caled yn tueddu i erydu'n arafach, a gallant greu ffurfiadau dramatig o graig dros amser, gan gynnwys twneli, pontydd, colofnau neu bileri fel yn achos Traeth Lulworth yn Dorset.

Lle ffurfir daeareg arfordirol o waddodion megis ar y clogwyni meddal o amgylch rhannau o arfordir dwyrain Lloegr, gall erydu achosi mwy o berygl i aneddiadau dynol.  Mae creigiau gwaddod, fel tywodfaen a sialc, wrth reswm yn erydu'n haws na chreigiau caled, felly mae'r arfordir yn encilio'n gyflymach.

Ceir cysylltiad rhwng erydu arfordirol a llifogydd arfordirol yn aml. Gall y naill arwain at y llall, yn enwedig lle mae traethlinau sy'n gwahanu'r môr oddi wrth dir gwastad, isel yn erydu.

Edrychwch ar ein ffilm fer am erydu arfordiroedd

Mae'r ffilm fer hon yn esbonio sut mae erydu arfordiroedd yn digwydd a'r ffeithiau sy'n effeithio ar gyfradd erydu.