Rhoi gwybod am ddigwyddiad - 0800 80 70 60

Peidiwch â'i anwybyddu, rhowch wybod amdano! Manylion am sut i roi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol.

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ein llinell argyfwng ar 0800 80 70 60 (Rhadffon*, gwasanaeth 24 awr). Ni ddylech ddefnyddio'r e-bost i roi gwybod am ddigwyddiad, oherwydd gallai hyn achosi oedi wrth i ni ymateb.    *Nid yw galwadau o ffonau symudol yn alwadau rhad ac am ddim a chodir cyfraddau galw arferol gweithredwr y rhwydwaith amdanynt.

Digwyddiadau rydym yn delio â nhw

Dylech eich ffonio ni i roi gwybod am ddigwyddiadau fel:    

  • difrod neu berygl i'r amgylchedd naturiol
  • llygredd i ddŵr neu i dir
  • potsio neu bysgota anghyfreithlon
  • pysgod sydd mewn trafferth neu bysgod marw
  • cwrs dŵr sydd â rhwystr ynddo oherwydd cerbyd neu goeden sydd wedi disgyn, gan achosi perygl o lifogydd
  • dympio gwastraff peryglus neu lwyth mawr o wastraff diwydiannol yn anghyfreithlon
  • digwyddiadau, gan gynnwys aroglau a sŵn, mewn safleoedd gwastraff a reolir gennym, fel tirlenwi, gorsaf drosglwyddo ac ati.
  • alldynnu'n anghyfreithlon o gyrsiau dŵr
  • gostyngiad anarferol yn llif afon
  • glannau afon neu gamlas sydd wedi cwympo neu sydd wedi'u difrodi'n ddrwg

Digwyddiadau nad ydym yn delio â nhw

Ni ddylech ein ffonio ni i roi gwybod am:      

  • nwy'n gollwng
  • prif bibellau dŵr wedi'u hollti
  • afliwio, arogl neu flas dŵr yfed
  • llifogydd o ganlyniad i bibell ddomestig wedi hollti neu orlif o ddraeniau'r ffordd
  • tipio sbwriel cartref neu ychydig wastraff masnachol yn anghyfreithlon
  • niwsans sŵn domestig
  • aroglau o eiddo domestig neu eiddo masnachol bach
  • llosgi gwastraff domestig neu ardd
  • plâu domestig
  • allyriadau mwg o gerbydau
  • cynnal y ffyrdd
  • toriadau ar gyflenwadau trydan neu ddŵr
  • draeniau a charthffosydd domestig wedi'u tagu

Ewch i wefan y Llywodraeth GOV.UK i gael gwybod i bwy ddylech adrodd ar y materion hyn:

Taclo'r Taclau (Crimestoppers)

Rydym yn defnyddio ffordd newydd o gasglu rhagor o wybodaeth am y bobl sy’n cyflawni troseddau amgylcheddol trwy lunio partneriaeth â Thaclo’r Tacle. Maent yn elusen annibynnol sy'n helpu i ddod o hyd i droseddwyr a datrys troseddau.

Nid yw Taclo’r Tacle yn cymryd lle ein rhif ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, sef 0800 80 70 60.

Dylech ddal ati i ffonio 0800 80 70 60 os bydd digwyddiad amgylcheddol yn digwydd neu ar fin digwydd e.e. carthffosiaeth yn mynd i afon, llosgi anghyfreithlon yn digwydd neu bobl yn pysgota yn anghyfreithlon.

Pryd i gysylltu â Thaclo'r Taclau

Rydym yn deall yn iawn, fodd bynnag, ar rai achlysuron bod pobl am roi gwybodaeth i ni ond nad ydynt am ddatgelu pwy ydynt, neu ddim am i ni ofyn iddynt roi datganiad neu ymddangos yn y llys.

Mae Taclo’r Tacle yn addo:

  • na fyddant byth yn gofyn am eich enw
  • na fydd eich galwad yn cael ei recordio
  • na fydd eich galwad neu ffurflen ar-lein yn cael ei holrhain
  • na fydd raid i chi wneud datganiad
  • na fyddwch yn ymddangos yn y llys

Mae rhai meysydd o droseddau amgylcheddol y mae gennym fwy o ddiddordeb ynddynt nag eraill ond peidiwch â bod ofn rhoi adroddiad i ni am rywbeth y byddwch yn ei weld neu ei glywed;

Dyma rai enghreifftiau o’r pethau i chwilio amdanynt:

  • tipio anghyfreithlon ar raddfa fawr iawn o 18 neu fwy o dunelli o wastraff - mae hyn yn cyfateb i tua dau sgip 12 llath giwbig
  • allforio anghyfreithlon ar deiars sy’n wastraff, offer trydanol gwastraff, a gwastraff trefol
  • potsio llyswennod a llyswennod ifanc
  • dwyn pysgod a stocio pysgod anghyfreithlon.

Os oes gennych wybodaeth am y meysydd hyn a’ch bod am roi roi gwybod yn ddienw, ffoniwch Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein.