Pecyn cymorth ar doeau gwyrdd

"Pan fydd rhywun yn creu toeau gwyrdd, nid oes angen i rywun ofni palmenti bondigrybwyll y tirlun: daw'r tai eu hunain yn rhan o'r tirlun." Freidensreich Hundertwasser (1928-2000) - Arlunydd, pensaer ac athronydd Awstriaidd.

Ein gweledigaeth

Rydym eisiau i doeau gwyrdd ddod yn dechnoleg brif-ffrwd mewn datblygiadau newydd yn Llundain, gan gyd-fynd â pholisi Toeau Byw Awdurdod Llundain Fwyaf.

Ein gweledigaeth yw y bydd datblygwyr yn hyrwyddo'r defnydd ar doeau gwyrdd er mwyn:

  • creu Llundain well a mwy cynaliadwy
  • cyflwyno lleoedd o ansawdd gwell i fyw a gweithio ynddynt
  • creu dinas rhad-ar-garbon
  • addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd, a'u lliniaru