Peirianyddion Panel

Rhaid archwilio a goruchwylio pob cronfa ddŵr o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 gan beiriannydd panel.

Grŵp o beirianyddion sifil arbenigol yw peirianyddion panel a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol i un o'r paneli canlynol am gyfnod o bum mlynedd.  Ar ôl y cyfnod hwnnw mae'n rhaid iddynt ymgeisio eto i gael eu hailbenodi.

Peirianyddion adeiladwaith

Penodir peiriannydd adeiladwaith i oruchwylio'r gwaith o ddylunio ac adeiladu cronfa ddŵr newydd neu addasu cronfa ddŵr fel ei fod yn cynyddu ei chapasiti.

Peirianyddion archwilio

Penodir peiriannydd archwilio i archwilio cronfa ddŵr, nodi a gwneud argymhellion sydd er budd diogelwch lle y bo'n briodol, ac yn eu rôl fel Peiriannydd Sifil Cymwysedig (QCE) fe'u cyflogir i oruchwylio gwaith a chadarnhau ei fod wedi ei gwblhau.

Peirianyddion goruchwylio

Penodir peiriannydd goruchwylio i oruchwylio'r gwaith o weithredu a chynnal a chadw'r gronfa ddŵr drwy'r adeg (er enghraifft, ar gael drwy'r adeg), oni fydd y gronfa ddŵr yn cael ei hadeiladu.